xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Diwrnod penodedig

4.  1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaeth Drosiannol

5.  Hyd nes bod rheoliadau'n cael eu gwneud o dan adran 31 mewn perthynas â Chymru, mae'r cyfeiriad ym mharagraff 9 o Atodlen 2 at “any transfer of control authorised by regulations under section 31” i fod yn effeithiol fel pe bai'n gyfeiriad at “any transfer of control agreement under Schedule 13” o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006