xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1069 (Cy.109)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

23 Ebrill 2007

Drwy arfer ei bwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 23 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau yng Nghymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “unedau” yw unedau cyfeirio disgyblion.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) 1994(2) a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Diwygio) 1996(3).

Cymhwyso ac addasu deddfiadau

3.  Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unedau gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Datgymhwyso deddfiadau

4.  Nid yw'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Rheoliad 3

ATODLEN 1DEDDFIADAU SY'N GYMWYS I UNEDAU (GYDAG ADDASIADAU NEU HEBDDYNT)

RHAN 1Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Addysg 1996

1.  Mae adran 404 o Ddeddf Addysg 1996(5) yn gymwys o ran yr athro neu'r athrawes â gofal uned fel y mae'n gymwys o ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, ond dim ond o ran disgyblion y darperir addysg uwchradd iddynt yn yr uned.

2.  Mae adran 405 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir gyda'r addasiad fod y geiriau “, except so far as such education is comprised in the National Curriculum,” yn cael eu hepgor.

3.  Mae adran 559 o'r Ddeddf honno(6) yn gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

4.—(1Mae adran 19 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7) yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyda'r addasiadau canlynol.

(2Mae is-adran (1) yn gymwys os bydd yr amgylchiadau a osodir yn adran 15(6) o'r Ddeddf honno ar unrhyw adeg yn gymwys o ran uned.

(3Yn is-adran (2) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu ym mharagraff (a), a hepgorer paragraffau (b) a (c).

(4Yn is-adran (3) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu.

5.  Mae adran 61 o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad y rhodder yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu gyfeiriadau at bwyllgor rheoli'r uned neu, yn achos uned sydd heb bwyllgor rheoli, yr awdurdod addysg lleol.

6.  Mae is-adrannau (1), (2) a (4) o adran 62 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran uned fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiadau—

(a)bod y cyfeiriad yn is-adran (2)(b) at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes â gofal yr uned, a

(b)bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at gorff llywodraethu yn cael ei hepgor.

Deddf Addysg 2002

7.  Mae adran 29(3) o Deddf Addysg 2002(8) yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno).

8.  Mae adran 30(4) o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad fod y geiriau “the governing body or (as the case may be)” a “the governing body or” yn cael eu hepgor.

9.  Mae adran 32 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a grybwyllir yn adran 32(1) gyda'r addasiad yn adran 32(1)(b), yn achos uned sydd â phwyllgor rheoli, mai'r awdurdod addysg lleol ynghyd â'r pwyllgor rheoli fydd yn penderfynu amserau'r sesiynau ysgol.

10.  Mae adran 101(1)(d) o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion arbennig.

Deddf Addysg 2005

11.—(1Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005(9) yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi gyda'r addasiadau canlynol.

(2Hepgorer Pennod 1 a 2, adrannau 36(3)(c), 39(9), 40, 48, 49 a 50 a pharagraff 3(5)(c) yn Atodlen 4.

(3Yn lle adran 38(3)(c), rhodder “the local education authority”.

(4Yn lle adran 39(3)(b), rhodder “teacher in charge of the unit”.

(5Yn adran 43 ac yn Atodlen 4, o ran uned, ystyr “appropriate authority” yw'r awdurdod addysg lleol.

RHAN 2Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999

12.  Mae rheoliad 2 o Reoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999(10) yn gymwys o ran disgybl sy'n mynychu uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

13.—(1Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(11) yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o Ddeddf Addysg 2005 yn gymwys iddynt, gyda'r addasiadau canlynol.

(2Yn lle'r diffiniad o “awdurdod priodol” yn rheoliad 4(1), rhodder “yr awdurdod addysg lleol”.

(3Yn rheoliad 7(1), hepgorer is-baragraffau (a) i (ch).

(4Mae rheoliad 7(1)(dd) yn gymwys i unedau fel y mae'n gymwys i ysgolion uwchradd.

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

14.—(1Mae Rhan 1 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(12) yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 gyda'r addasiadau canlynol.

(2Mae'r ddyletswydd o dan reoliad 4(1) yn ddyletswydd yr awdurdod addysg lleol.

(3Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “15, 26 a 27”;

(b)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraffau (b) ac (c); ac

(c)hepgorer paragraff (3).

(4Hepgorer rheoliad 6.

(5Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (4)(a) a 5.

15.—(1Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9 gyda'r addasiadau canlynol.

(2Yn lle rheoliad 10, rhodder—

(a)Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau pryd bynnag y bydd swydd athro neu athrawes â gofal uned yn wag bod person yn cael ei benodi yn athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal er mwyn cyflawni swyddogaethau athro neu athrawes â gofal o dan unrhyw ddeddfiad.

(b)Wrth benderfynu os yw person yn addas ar gyfer ei benodi'n athro neu'n athrawes â gofal, neu'n athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol..

(3Hepgorer rheoliad 11.

(4Yn lle rheoliad 12, rhodder—

(a)Wrth benodi person i swydd, neu wrth gymryd person ymlaen i weithio mewn dull arall, mewn uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(b)Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran swyddi staff cymorth a gwaith staff cymorth fel y mae'n gymwys o ran swyddi addysgu a gwaith athrawon.

(5Hepgorer rheoliad 13.

(6Yn lle rheoliad 14, rhodder—

(7Hepgorer rheoliadau 15 a 17 i 19.

(8Yn lle rheoliad 16, rhodder—

(1) Mae gan yr awdurdod addysg lleol a chan yr athro neu'r athrawes â gofal uned y pwer i atal unrhyw berson a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ac, ym marn yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) ym marn yr athro neu'r athrawes â gofal, y mae angen ei atal.

(2) Rhaid i'r person sy'n arfer y pwer i atal hysbysu'r person arall sydd â'r pwer i atal o dan baragraff (1) ar unwaith.

(3) Dim ond yr awdurdod addysg lleol a all roi diwedd ar ataliad o dan y rheoliad hwn a phan roddir diwedd ar ataliad, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r pennaeth ar unwaith.

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “atal” yw atal heb golli tâl..

Rheoliad 4

ATODLEN 2DEDDFIADAU A DDATGYMHWYSIR O RAN UNEDAU

Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

1.  Nid yw adrannau 86 (13) a 94(14) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gymwys o ran unedau.

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

2.  Nid yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(15) yn gymwys o ran unedau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu heblaw mewn ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o'r ysgol neu fel arall, yn derbyn am unrhyw gyfnod, addysg addas oni wneir trefniadau o'r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o'r fath, yn uned cyfeirio disgyblion.

Mae Atodlen 1 i'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso gwahanol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Maent yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth addysg a basiwyd, ers i rheoliadau gael ei gwneud ddiwethaf i gymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cynt hynny'n cael eu dirymu gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.

(1)

1996 p. 56. Rhoddwyd y pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol: gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 579 o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), mae'r pwerau yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru.

(5)

Diwygiwyd Adran 404 gan baragraff 103 o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a chan adran 148(1) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21).

(6)

Diwygiwyd adran 559 gan baragraff 171 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(7)

1998 p. 31. Diwygiwyd adran 19 gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraffau 1 a 79 o Atodlen 9 ohoni (p. 21) a chan adran 45 o Ddeddf Addysg 2005.

(13)

Diwygiwyd adran 86 gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 3 o Atodlen 4, ac Atodlen 22 Rhan 3 iddi.

(14)

Diwygiwyd adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 8 o Atodlen 4 iddi.