- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Rheoliad 2)
Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnodau | Graddau'r dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 | O.S 2003/3237 (Cy.317) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/549 (Cy.53) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 | O.S. 2005/35 (Cy.2) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 | O.S. 2006/30 (Cy.4) | Y rheoliad yn gyfan |
(Rheoliad 4)
1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—
(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl ac, os bu gan yr ysgol rif unigryw blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
(b)cyfenw;
(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d)rhyw;
(dd)dyddiad geni;
(e)grwp ethnig;
(f)hunaniaeth genedlaethol;
(ff)dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac
(g)grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2. Cod post y cartref lle y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3. A gafodd yr wybodaeth am grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon ei darparu gan—
(a)y disgybl;
(b)rhiant;
(c)yr ysgol;
(ch)ysgol flaenorol; neu
(d)unrhyw ffynhonnell arall.
4. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5. A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
6. A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan—
(a)y disgybl;
(b)rhiant;
(c)yr ysgol;
(ch)ysgol flaenorol; neu
(d)unrhyw ffynhonnell arall.
7. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, ac eithrio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
8. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(1), wedi gwneud cais am gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ac wedi ei gael yn gymwys.
9. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad ynghylch—
(a)prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;
(b)pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig, sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw; ac
(c)y cymorth a ddarperir.
10. Pan yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
11. A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol tra bu ar gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
12. Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac, os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
13. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu mewn mwy nag un ysgol ac, os yw'r disgybl wedi ei gofrestru'n ddisgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth amdano yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn ei mynychu am y rhan fwyaf o'i amser.
14. A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
15. Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg—
(a)mewn dosbarth meithrin;
(b)mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
(c)mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi ei ddynodi'n ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu wedi ei drefnu'n ddosbarth arbennig gan yr ysgol.
16. Cyfanswm nifer y canlynol—
(a)sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan oedd y disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)y sesiynau ysgol hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaeth y disgybl eu mynychu; ac
(c)nifer yr absenoldebau a awdurdodwyd a'r absenoldebau nas awdurdodwyd ar gyfer y disgybl.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob person sydd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol neu a oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol ar unrhyw adeg flaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth—
(a)a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru;
(b)teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio; ac
(c)a sgriniwyd y disgybl i nodi unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ac ar ddiwedd ei raglen gweithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, o ran unrhyw sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd—
(i)na chawsant eu hasesu oherwydd na nodwyd unrhyw sgiliau sylfaenol pan sgriniwyd y disgybl; neu
(ii)cawsant eu hasesu a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl—
(aa)o dan lefel mynediad,
(bb)ar lefel mynediad 1,
(cc)ar lefel mynediad 2,
(chch)ar lefel mynediad 3,
(dd)ar lefel 1, neu
(dddd)yn uwch na lefel 1, neu
(iii)ni wyddys neu gwrthododd y disgybl gael ei asesu.
(ch)pa gymorth a gynigiwyd i'r disgybl a pha gymorth a dderbyniodd y disgybl pan aseswyd y disgybl o dan is-baragraff (c)(ii) a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl o dan lefel mynediad 1.
2. Mewn perthynas â phob gweithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio—
(a)cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;
(b)y dyddiad y dechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;
(c)y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;
(ch)enw darparwr y gweithgaredd dysgu;
(d)a gyflwynir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg;
(dd)a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd;
(e)a yw'r disgybl yn parhau i astudio'r gweithgaredd dysgu neu a yw wedi ei gwblhau neu wedi rhoi'r gorau iddo; ac
(f)p'un a yw'r disgybl wedi cwblhau'r gweithgaredd dysgu neu wedi rhoi'r gorau iddo, y dyddiad y cwblhaodd y disgybl y gweithgaredd dysgu neu y rhoddodd y gorau iddo ac a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.
3. Yr wybodaeth ganlynol am ddisgybl a roddodd y gorau i fynychu chweched dosbarth yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth—
(a)y dyddiad y gadawodd y disgybl yr ysgol; a
(b)y rheswm pam y gadawodd y disgybl yr ysgol, os yw'n hysbys.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth—
(a)Rhif unigryw cyfredol disgybl;
(b)cyfenw;
(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d)rhyw;
(dd)dyddiad geni; ac
(e)y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.
Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB gan adran 202(1) o Ddeddf 2002.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys