- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif L401 20.12.2006, t.1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a fwriedir ar gyfer eu hallforio i drydydd gwledydd (OJ Rhif L179, 1.7.1992, t.129).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) ac mae cyfeiriadau at yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2006/141/EC i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(6)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn gwahardd marchnata fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sy'n mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 3);
(b)yn gwahardd marchnata neu gynrychioli fel arall fod cynnyrch yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod (rheoliad 4);
(c)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylweddau ag i beryglu iechyd babanod a phlant ifanc (rheoliad 5);
(ch)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod fod wedi'i gweithgynhyrchu o ffynonellau protein penodol a chynhwysion bwyd addas eraill (rheoliad 6);
(d)yn darparu bod rhaid i fformiwla ddilynol fod wedi'i gweithgynhyrchu o ffynonellau protein penodol a chynhwysion bwyd addas eraill (rheoliad 7);
(dd)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod gydymffurfio â meini prawf cyfansoddiadol penodedig (rheoliad 8);
(e)yn darparu bod rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â meini prawf cyfansoddiadol penodedig (rheoliad 9);
(f)yn darparu na fydd gofyn gwneud dim ond ychwanegu dŵr ati er mwyn gwneud fformiwla babanod neu fformiwla ddilynol yn barod i'w defnyddio (rheoliad 10);
(ff)yn darparu bod rhaid i'r defnydd o gynhwysion bwyd mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gadw at waharddiadau a therfynau penodedig (rheoliad 11);
(g)yn darparu mai dim ond sylweddau penodedig a gaiff eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion penodedig Cyfarwyddeb 2006/141/EC a bod rhaid i'r sylweddau hynny fodloni meini prawf purdeb penodedig (rheoliad 12);
(ng)yn gwahardd gweithredydd busnes bwyd rhag gosod fformiwla fabanod ar y farchnad nad yw eto wedi'i gosod ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig oni bai bod y gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 13);
(h)yn darparu na chaiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodedig (rheoliad 14);
(i)yn darparu mai dim ond o dan enwau penodol y caiff fformiwla fabanod ei gwerthu (rheoliad 15);
(j)yn darparu mai dim ond o dan enwau penodol y caiff fformiwla ddilynol ei gwerthu (rheoliad 16);
(l)yn darparu ar gyfer labelu fformiwla fabanod (rheoliad 17);
(ll)yn darparu ar gyfer labelu fformiwla ddilynol (rheoliad 18);
(m)yn darparu bod rhaid labelu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol mewn modd sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y cyfryw gynhyrchion er mwyn osgoi unrhyw risg o ddryswch rhyngddynt (rheoliad 19);
(n)yn cymhwyso darpariaethau rheoliadau penodedig i gyflwyno fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (rheoliad 20);
(o)yn gwahardd hysbysebu fformiwla fabanod ac eithrio mewn cyhoeddiadau penodedig oni bai bod yr hysbyseb yn cydymffurfio â darpariaethau rheoliadau penodedig (rheoliad 21(1));
(p)yn gosod cyfyngiadau ar gynnwys hysbysebion am fformiwla fabanod (rheoliad 21(2) a (3));
(ph)yn gwahardd hysbysebu fformiwla ddilynol os yw'r hysbyseb yn mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â'u darpariaethau. (rheoliad 22);
(r)yn gosod cyfyngiadau ar hybu fformiwla fabanod (rheoliad 23);
(rh)yn gosod cyfyngiadau ar gynhyrchu neu gyhoeddi deunydd at ddibenion gwybodaeth neu addysg sy'n ymwneud â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant bach (rheoliad 24(1), (2) a (3));
(s)yn gwahardd cynhyrchwyr neu ddosbarthwyr fformiwla fabanod rhag gwneud rhodd o gyfarpar na deunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg oni bai bod amodau penodol wedi'u bodloni (rheoliad 24(4));
(t)yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gall corff neu sefydliad ei wneud gyda fformiwla fabanod y mae wedi ei chael heb dalu amdani neu am bris gostyngol (rheoliad 25);
(th)yn gwahardd allforio i drydedd wlad fformiwla fabanod sy'n groes i reoliadau penodedig neu i safon ryngwladol benodedig neu i Reoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 (O.S. 1996/1502) neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 26(1));
(u)yn gwahardd allforio i drydedd wlad gynnyrch a gynrychiolir fel cynnyrch sy'n addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod pedwar i chwe mis cyntaf eu bywyd oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod (rheoliad 26(2));
(w)yn gwahardd allforio i drydedd wlad fformiwla ddilynol sy'n groes i reoliadau penodedig neu i safon ryngwladol benodedig neu i Reoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 27);
(y)yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn darparu cosb am fynd yn groes iddynt neu am fethu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 28(1));
(aa)yn darparu bod rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal (rheoliad 28(2));
(bb)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) gydag addasiadau (rheoliad 29);
(cc)yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy. 25)) (rheoliad 30); ac
(chch)yn dirymu Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (O.S. 1995/77) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (mae O.S. 1995/77 yn gymwys i'r cyfan o Brydain Fawr) ac yn darparu trefniadau trosiannol o ran O.S. 1995/77 (rheoliad 31) .
4. Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys