Cyrsiau dysgu o bell dynodedig
64.—(1) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62 os caiff ei ddynodi gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—
(a)bod y cwrs yn cael ei grybwyll yn Atodlen 2 heblaw am gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(b)bod y cwrs yn gwrs amser-llawn;
(c)bod y cwrs yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch)nad yw'n ofynnol gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ei fynychu.
(3) At ddibenion penderfynu a yw'r gofyniad ym mharagraff (2)(ch) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—
(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—
(i)cofrestru;
(ii)arholiad;
(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;
(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw'n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad neu'r sefydliadau hynny.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—
(a)os yw'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a
(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.