- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.
(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys —
(a)os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;
(b)os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad—
(i)o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm: neu
(ii)o dan lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu
(c)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
(6) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(i)sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;
(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;
(iii)na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac
(iv)nad yw'n absennol o'r cwrs heblaw yn ystod gwyliau.
(7) Mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys