xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
98.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.
(2) Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £10,000 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.
(3) At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys” —
(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;
(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a
(c)gwariant ychwanegol a dynnir—
(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;
(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu'r Athrofa.