xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am wybodaeth y maent o'r farn bod ei hangen i adennill benthyciad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymhwysol ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i'r person ddarparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull ad-dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i'r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.