Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diffiniadau

1.  Yn yr Atodlen hon —

(a)ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(c)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(ch)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(d)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(dd)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(e)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny;

(f)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(ff)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol —

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys —

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

(ng)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(h)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(i)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd); a

(j)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion —

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill