- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2009 i 11 Medi 2010 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008.
Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchu tir amaethyddol yn ofynnol ar gyfer penderfynu p'un a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw “uned fasnachol o dir amaethyddol” sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad o enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sydd yn 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn a phryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir o dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 yn yr Atodlen yn disgrifio'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2008, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2008.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys