xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 974 (Cy.128)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

PENSIYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2012

Gwnaed

28 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

1947 p.41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â Chymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (“Firemen’s Pension Scheme”) ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), gan erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy.257). Drwy erthygl 4 o'r offeryn hwnnw newidiwyd enw'r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (“Firefighters' Pension (Wales) Scheme”). Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf 1947 gan amryfal Ddeddfau ond nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Yr oeddent wedi eu breinio'n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Gwasanaethau Tân 1947 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.