- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddogfennau sy’n ymwneud â chyfarfod a gynhaliwyd, neu benderfyniad gweithrediaeth a wnaed, ar neu ar ôl 22 Ebrill 2020 a chyn diwedd 30 Ebrill 2021 yr oedd yn ofynnol iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd—
(a)o dan adran 100C o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd gan reoliad 21(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020(1), neu
(b)o dan reoliad 13 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(2) fel y’u diwygiwyd gan reoliad 23(8)(e)(3) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
(2) Rhaid i ddogfennau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe blynedd sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod neu benderfyniad y weithrediaeth i ben.
O.S. 2020/442 (Cy. 100)), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/653 (Cy. 150). Addaswyd adran 100C o Ddeddf 1972 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 21(4) o O.S. 2020/442 (Cy. 100)) fel bod adran 100C i’w darllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, is-adran (7) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid o dan adrannau 100B a 100C o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd, barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd. Diwygiwyd adran 100C ymhellach gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 8. Ceir diwygiadau eraill i’r adran nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Addaswyd rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd gweithrediaethau awdurdodau lleol a gynhaliwyd a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 23(8)(e) o O.S. 2020/442 (Cy. 100) fel bod rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith darpariaethau eraill, baragraff (5A) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid yn electronig o dan reoliad 8 o O.S. 2001/2290, fel y’i haddaswyd, gael ei gadw gan yr awdurdod lleol a pharhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys