xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn y Mesur hwn—
mae “anaf personol” (“personal injury”) yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn;
mae i “claf” yr un ystyr â “patient” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
ystyr “y gwasanaeth iechyd yng Nghymru” (“the health service in Wales”) yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o'r Ddeddf honno;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“a health care professional”) yw aelod o broffesiwn (p'un a yw'n cael ei reoleiddio gan unrhyw ddeddfiad neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud (yn llwyr neu yn rhannol) ag iechyd corfforol neu iechyd meddyliol unigolion;
mae i “salwch” yr un ystyr ag “illness” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)
I2A. 13 mewn grym ar 7.2.2011 gan O.S. 2011/211, ergl. 2, Atod.