Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

24Dehongli cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Mesur hwn—

  • nid yw “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg uwch;

  • ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “anabledd” yr ystyr sydd i “disability” ac i “person anabl” yr ystyr sydd i “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);

  • ystyr “anhawster dysgu” (“learning difficulty”) mewn cysylltiad â pherson yw—

    (a)

    anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu

    (b)

    anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,

    ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw [F1awdurdod lleol] yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn [F2Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.] 1970 (p.42);

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;

  • ystyr “profiad gwaith” (“work experience”) yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—

    (a)

    un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu

    (b)

    myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach,

    gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

  • ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn [F3adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] 1989 (p.41).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.