Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

44Llwybrau dysgu: dehongliLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Yn yr adran hon ac yn adran 43—

  • [F1mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;]

  • mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);

  • ystyr “disgybl perthnasol” (“relevant pupil”) yw un o ddisgyblion cofrestredigysgol a gynhelir;

  • ystyr “myfyriwr perthnasol” (“relevant student”) yw person—

    (a)

    sy'n cael y rhan fwyaf o'i addysg mewn sefydliad, neu o dan drefniadau a wnaed gan gorff llywodraethu'r sefydliad hwnnw; a

    (b)

    nad yw wedi cyrraedd pedwar ar bymtheg oed neu unrhyw oedran yn ddiweddarach yn ei oes a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “pennaeth sefydliad” (“principal”) yw pennaeth neu brifathro neu brifathrawes arall sefydliad;

  • ystyr “sefydliad” (“institution”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, ac, o ran myfyriwr perthnasol, mae'n golygu'r sefydliad y mae ei gorff llywodraethu'n gyfrifol am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cyfan neu'r rhan fwyaf o addysg y myfyriwr perthnasol hwnnw;

  • mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p.56); ac

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—

    (a)

    unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan [F2awdurdod lleol] yng Nghymru, neu

    (b)

    unrhyw ysgol arbennig gymunedol F3... a gynhelir gan [F2awdurdod lleol] yng Nghymru ac nad yw'n wedi'i sefydlu mewn ysbyty,

    ac, o ran disgybl perthnasol, mae'n golygu'r ysgol a gynhelir y mae'n ddisgybl cofrestredig ohoni.