Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Archwiliadau ac asesiadau gwellaLL+C

17Gwybodaeth am welliannau a chynllunio ar gyfer gwella: archwilioLL+C

Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad er mwyn penderfynu—

(a)a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni yn ystod y flwyddyn honno ei ddyletswydd o dan adran 15(1) i (7); a

(b)i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 17 mewn grym ar 1.4.2011 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3

I3A. 17(a) mewn grym ar 1.4.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

18Asesiadau gwellaLL+C

(1)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Ynghyd ag asesiad o dan is-adran (1), caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw'r awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod blynyddoedd ariannol dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I5A. 18 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

19Adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesuLL+C

(1)Bob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig adroddiad neu adroddiadau—

(a)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r archwiliad, yn credu—

(i)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (7); a

(ii)bod yr awdurdod wedi gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

(c)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal asesiad o dan adran 18 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol;

(d)sy'n disgrifio i ba raddau y mae gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd i'r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 33 wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gynnal yr asesiad hwnnw;

(e)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol;

(f)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, gamau y dylai'r awdurdod eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu weithredu'n unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) (p'un ai mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol honno neu flwyddyn ariannol ddiweddarach);

(g)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, y dylai Gweinidogion Cymru—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29 ac, os felly, y math o gyfarwyddyd;

(h)sy'n datgan, yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, a yw'r Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig o dan adran 21.

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o unrhyw adroddiad a ddyroddir o dan yr adran hon i'r awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i gopïau o adroddiad gael eu hanfon yn unol ag is-adran (2)—

(a)erbyn 30 Tachwedd yn ystod y flwyddyn ariannol y cafodd yr archwiliad ei gynnal ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi; neu

(b)erbyn unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, bennu dyddiad ar gyfer anfon adroddiad mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig penodedig sy'n wahanol i'r dyddiad a fyddai'n gymwys fel arall o dan is-adran (3)—

(a)os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydd o'r fath; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n eithriadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I7A. 19(1)(a)(b) mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3

I8A. 19(1)(b) mewn grym ar 1.4.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I9A. 19(1)(c)-(h)(2)-(4) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

20Ymateb i adroddiadau adran 19LL+C

(1)Mae'r is-adrannau canlynol yn gymwys pan fo unrhyw adroddiad a gaiff awdurdod gwella Cymreig o dan adran 19(2)—

(a)yn cynnwys argymhelliad o dan adran 19(1)(f) neu (g); neu

(b)yn datgan o dan adran 19(1)(h) bod Archwilydd Cyffredinol Cymru o blaid cynnal arolygiad arbennig.

(2)Rhaid i'r awdurdod baratoi datganiad ynghylch—

(a)unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i'r adroddiad; a

(b)yr amserlen y mae'n ei chynnig ar gyfer cymryd y camau hynny.

(3)Rhaid i ddatganiad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) gael ei baratoi—

(a)cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu

(b)os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Rhaid i'r awdurdod ymgorffori'r datganiad yn ei gynllun gwella ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

(5)Os bydd yr adroddiad yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad at Weinidogion Cymru—

(a)cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu

(b)os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae diwrnod gwaith yn ddiwrnod nad yw—

(a)yn ddydd Sadwrn nac yn ddydd Sul;

(b)yn Ddydd Nadolig nac yn Ddydd Gwener y Groglith; neu

(c)yn unrhyw ddydd sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I11A. 20 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2