xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau ei hun neu ddyletswyddau awdurdod gwella Cymreig arall o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7), neu er mwyn hwyluso'r modd y mae'r dyletswyddau hynny'n cael eu cyflawni, mae gan awdurdod gwella Cymreig y pwerau yn is-adran (2).
(2)Mae'r pwerau yn bwerau i wneud y canlynol—
(a)rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson;
(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;
(c)cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;
(d)arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw; ac
(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.
(3)Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod gwella Cymreig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 9 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
(1)Er mwyn i awdurdod tân ac achub Cymreig gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) neu er mwyn ei gwneud yn hwylus iddynt gael eu cyflawni, bydd adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol) yn cael effaith fel petai'r awdurdod yn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honno.
(2)Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod tân ac achub Cymreig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I4A. 10 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriad at “bwerau cydlafurio” awdurdod gwella Cymreig yn gyfeiriad at y canlynol—
(a)pwerau'r awdurdod gwella Cymreig o dan adran 9 o'r Mesur hwn;
F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)pŵer yr awdurdod gwella Cymreig i awdurdodi person (neu rai sy'n cael eu cyflogi gan y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40);
(d)yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig, ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y rhoddir effaith i'r adran honno mewn perthynas â'r awdurdod gan adran 10 o'r Mesur hwn);
F2(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 11(1)(b) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 113(c), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 4, 5, 7-9)
F2A. 11(1)(e) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 169(c), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 6-9)
F3A. 11(2) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 113(c), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 4, 5, 7-9)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I6A. 11 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig bwyso a mesur o bryd i'w gilydd a fyddai arfer unrhyw un o'i bwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7).
(2)Os daw'r awdurdod i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn ei helpu i gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu geisio peri iddo gael ei arfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I8A. 12 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
Wrth benderfynu p'un ai I arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 9(1) a 12 a sut I'w harfer, rhaid I awdurdod gwella Cymreig roi sylw I unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.]
Diwygiadau Testunol
F4A. 12A wedi ei fewnosod (C.) (31.8.2011) gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (nawm 4), aau. 161, 178(3); O.S. 2011/2011, ergl. 2(r)