xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Y ddyletswydd gyffredinolLL+C

2Dyletswydd gyffredinol mewn perthynas â gwellaLL+C

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau.

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod roi sylw penodol i'r angen am wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

(3)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (2), gweler adran 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(3)

I2A. 2(1) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I3A. 2(2)(3) mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(b)