Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Ystyr “awdurdod gwella Cymreig”

1Ystyr “awdurdod gwella Cymreig”

At ddibenion y Mesur hwn, mae “awdurdod gwella Cymreig”—

(a)yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)yn awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru; neu

(c)yn awdurdod tân ac achub Cymreig sy'n awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

Y ddyletswydd gyffredinol

2Dyletswydd gyffredinol mewn perthynas â gwella

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau.

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod roi sylw penodol i'r angen am wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

(3)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (2), gweler adran 4.

Amcanion gwella

3Amcanion gwella

(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod gwella Cymreig osod amcanion iddo'i hun i wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno (“amcanion gwella”).

(2)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion gwella.

(3)Rhaid i amcan gwella gael ei ffurfio mewn ffordd a fydd yn gwella'r modd yr arferir y swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi neu'r swyddogaethau y mae'n ymwneud â hwy o ran un o'r canlynol o leiaf—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

(4)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (3), gweler adran 4.

Gwella: materion atodol

4Agweddau ar wella

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer ystyron paragraffau (a) i (g) o'r canlynol—

(a)adran 2(2);

(b)adran 3(3); ac

(c)adran 8(5).

(2)Mae awdurdod gwella Cymreig yn gwella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—

(a)effeithiolrwydd strategol, os yw'n arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy'n rhesymol debyg o arwain at fodloni, neu helpu i fodloni, unrhyw un o'i amcanion strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau, os oes gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau, os oes gwelliant o ran y gwasanaethau sydd ar gael;

(d)tegwch, os—

(i)caiff anfanteision sy'n wynebu grwpiau penodol wrth geisio mynediad i wasanaethau, neu wrth geisio cymryd mantais lawn ohonynt, eu lleihau; neu

(ii)caiff llesiant cymdeithasol ei wella o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau neu i'r modd yr arferir swyddogaethau fel arall;

(e)cynaliadwyedd, os caiff gwasanaethau eu darparu neu swyddogaethau eu harfer fel arall mewn modd sy'n cyfrannu at gyrraedd datblygiad cynaliadwy yn ardal yr awdurdod;

(f)effeithlonrwydd, os oes gwelliant o ran effeithlonrwydd y modd y mae adnoddau'n cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau neu o ganlyniad i'r modd y caiff swyddogaethau eu harfer fel arall; ac

(g)arloesi, os caiff y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu neu swyddogaethau'n cael eu harfer fel arall ei newid mewn modd sy'n rhesymol debyg o arwain at unrhyw ganlyniad sydd wedi ei ddisgrifio ym mharagraffau (a) i (f).

(3)At ddibenion is-adran (2)(a), amcanion strategol awdurdod gwella Cymreig yw'r canlynol—

(a)yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yr amcanion strategaeth gymunedol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod;

(b)yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol—

(i)unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a

(ii)os yw Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol yr awdurdod yn cynnwys amcanion i'r awdurdod eu cyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau, yr amcanion hynny;

(c)yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig—

(i)unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a

(ii)os yw'r awdurdod wedi penderfynu gosod amcanion iddo'i hun mewn ymateb i ganllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, yr amcanion hynny.

(4)At ddibenion yr adran hon—

(a)ystyr “strategaeth gymunedol gyfredol” (“current community strategy”) yw'r strategaeth gymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol a gyhoeddwyd o dan adran 39(4) neu, pan fo'r strategaeth wedi'i diwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 41, y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 41(6);

(b)ystyr “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub” (“Fire and Rescue National Framework”) yw'r Fframwaith a baratowyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n cael effaith o dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (gan gynnwys unrhyw adolygiadau o'r Fframwaith sy'n cael effaith o dan yr adran honno);

(c)ystyr “Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol” (“National Park Management Plan”) yw'r Cynllun sydd wedi ei gyhoeddi gan awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun sydd wedi eu cyhoeddi o dan is-adran (6) o'r adran honno);

(d)ystyr “amcan strategaeth gymunedol perthnasol” (“relevant community strategy objective”) yw amcan sydd—

(i)wedi'i gynnwys mewn strategaeth gymunedol gyfredol y bu'r awdurdod ynghlwm wrth ei llunio fel partner cynllunio cymunedol (o fewn ystyr adran 38); a

(ii)yn gysylltiedig â swyddogaethau'r awdurdod;

(e)mae cyfeiriad at wasanaethau yn gyfeiriad at—

(i)gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau;

(ii)gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan unrhyw berson arall o dan drefniadau a wnaed gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau.

5Ymgynghori ynghylch y ddyletswydd gyffredinol a'r amcanion gwella

(1)Er mwyn penderfynu sut i gyflawni'r dyletswyddau o dan adran 2(1) a 3(1), rhaid i awdurdod gwella Cymreig ymgynghori â'r canlynol—

(a)cynrychiolwyr personau sy'n preswylio yn ardal yr awdurdod;

(b)cynrychiolwyr personau sy'n atebol i dalu ardrethi annomestig mewn cysylltiad ag unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi;

(c)cynrychiolwyr personau sy'n defnyddio neu sy'n debyg o ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod; a

(d)cynrychiolwyr personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “cynrychiolwyr”, mewn perthynas â grwp o bersonau, yw personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli'r grwp hwnnw.

6Y ddyletswydd gyffredinol, amcanion gwella ac ymgynghori: canllawiau

Wrth benderfynu—

(a)sut i gyflawni'i ddyletswyddau o dan adran 2(1), 3(1) a 3(2);

(b)â phwy i ymgynghori o dan adran 5; neu

(c)ffurf, cynnwys ac amseriad yr ymgynghoriadau o dan adran 5,

rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

7Agweddau ar wella: diwygio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2) o adran 4;

(b)ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.

(2)Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol neu'n hwylus mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (1).

(3)Cyn gwneud gorchymyn o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig, a

(b)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.

Dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad

8Dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu—

(a)ffactorau (“dangosyddion perfformiad”) y gellir eu defnyddio i fesur perfformiad awdurdod gwella Cymreig wrth iddo arfer ei swyddogaethau;

(b)safonau (“safonau perfformiad”) sydd i'w cyrraedd gan awdurdodau gwella Cymreig mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan baragraff (a).

(2)Caiff gorchymyn bennu gwahanol ddangosyddion perfformiad neu wahanol safonau perfformiad—

(a)ar gyfer gwahanol swyddogaethau;

(b)ar gyfer gwahanol awdurdodau neu wahanol ddisgrifiadau o awdurdod;

(c)i fod yn gymwys ar adegau gwahanol.

(3)Cyn pennu dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau o dan sylw,

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.

(4)Wrth benderfynu a ddylid pennu dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad, ac wrth eu penderfynu, rhaid i Weinidogion Cymru anelu at hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae swyddogaethau awdurdodau gwella Cymreig yn cael eu harfer.

(5)Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru ymwneud â'r angen am wella'r modd y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu harfer o ran o leiaf un o'r canlynol—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

(6)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (5), gweler adran 4(2).

(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safon perfformiad gymwys a bennwyd o dan is-adran (1)(b) yn cael ei bodloni.

Cydlafurio a gwella

9Pwerau cydlafurio etc

(1)Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau ei hun neu ddyletswyddau awdurdod gwella Cymreig arall o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7), neu er mwyn hwyluso'r modd y mae'r dyletswyddau hynny'n cael eu cyflawni, mae gan awdurdod gwella Cymreig y pwerau yn is-adran (2).

(2)Mae'r pwerau yn bwerau i wneud y canlynol—

(a)rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson;

(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;

(c)cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;

(d)arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw; ac

(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.

(3)Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod gwella Cymreig.

10Awdurdodau tân ac achub: pwerau dirprwyo

(1)Er mwyn i awdurdod tân ac achub Cymreig gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) neu er mwyn ei gwneud yn hwylus iddynt gael eu cyflawni, bydd adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol) yn cael effaith fel petai'r awdurdod yn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honno.

(2)Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod tân ac achub Cymreig.

11Ystyr “pwerau cydlafurio”

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriad at “bwerau cydlafurio” awdurdod gwella Cymreig yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)pwerau'r awdurdod gwella Cymreig o dan adran 9 o'r Mesur hwn;

(b)yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—

(i)ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol);

(ii)pŵer gan weithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall neu ar ei ran);

(iii)pŵer gan yr awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

(c)pŵer yr awdurdod gwella Cymreig i awdurdodi person (neu rai sy'n cael eu cyflogi gan y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40);

(d)yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig, ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y rhoddir effaith i'r adran honno mewn perthynas â'r awdurdod gan adran 10 o'r Mesur hwn);

(e)yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol, ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y rhoddir effaith i'r adran honno mewn perthynas â'r awdurdod gan baragraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)).

(2)Yn is-adran (1)(b)(ii) mae i “gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive” yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

12Dyletswyddau mewn perthynas â phwerau cydlafurio

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig bwyso a mesur o bryd i'w gilydd a fyddai arfer unrhyw un o'i bwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7).

(2)Os daw'r awdurdod i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn ei helpu i gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu geisio peri iddo gael ei arfer.

Cynllunio gwelliannau a gwybodaeth am welliannau

13Casglu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau ar gyfer—

(a)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol yr amcanion gwella hynny a osodwyd o dan adran 3(1) ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—

(i)mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(a) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;

(ii)asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(b) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;

(c)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—

(i)mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(ii)asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno.

(2)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 14 a 15—

(a)mae dangosydd perfformiad hunanosodedig yn ffactor y mae awdurdod gwella Cymreig, drwy gyfeirio ato, wedi penderfynu ei ddefnyddio i fesur ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a

(b)mae safon perfformiad hunanosodedig yn safon y mae awdurdod gwella Cymreig wedi penderfynu ei chyrraedd mewn perthynas â dangosydd perfformiad hunanosodedig.

14Defnyddio gwybodaeth am berfformiad

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig ddefnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i gymharu ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hwy â'r canlynol—

(a)ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(b)cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosibl, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi ac yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.

(2)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig—

(a)defnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i asesu a allai wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a

(b)yng ngoleuni'r asesiad hwnnw, penderfynu pa gamau y bydd yn eu cymryd gyda golwg ar wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan yr adran hon ac adran 13, rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

15Cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannau

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau yn unol â'r adran hon ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir isod.

(2)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi—

(a)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol—

(i)o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;

(ii)o ran cyrraedd yr amcanion gwella y mae wedi'u gosod iddo'i hun o dan adran 3 ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iii)drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(a) a dangosyddion perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iv)o ran cyrraedd y safonau perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(b) a safonau perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol o gymharu'r perfformiad hwnnw â'r canlynol—

(i)ei berfformiad yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(ii)cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno a blynyddoedd ariannol blaenorol (i'r graddau y mae'r awdurdodau hynny'n arfer swyddogaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu harfer gan yr awdurdod);

(c)manylion am y ffyrdd y mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau cydlafurio yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) yn ystod y flwyddyn honno neu ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni'r dyletswyddau hynny;

(d)manylion am yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a'r hyn y mae'r awdurdod wedi'i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14 mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

(3)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â'r awdurdod a ddyroddir o dan adran 22.

(5)Rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod y crynodeb yn cael ei gyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y cafodd yr adroddiad ei ddyroddi ynddi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(6)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) mewn blwyddyn ariannol a hynny, os gwêl yr awdurdod yn dda, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd dilynol (“cynllun gwella”).

(7)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi; neu

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(8)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon.

(9)Heb leihau neu estyn effaith natur gyffredinol is-adran (8), caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran honno fynd i'r afael â'r canlynol—

(a)y modd y mae asesiadau o berfformiad i'w cynnal;

(b)gwneud cynllun gwella, gan gynnwys yr weithdrefn sydd i'w dilyn.

Rheoleiddwyr perthnasol a'u swyddogaethau

16Ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae “rheoleiddiwr perthnasol” yn berson a restrir yn is-adran (2) a “swyddogaethau perthnasol” y rheoleiddiwr yw'r rhai a bennir mewn cysylltiad â'r person hwnnw yn yr is-adran honno.

(2)Mae'r rheoleiddwyr perthnasol a'u swyddogaethau perthnasol fel a ganlyn—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu AALl);

(b)Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan—

(i)adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau Cymunedol) 2003 (p. 43) (adolygiadau etc o'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu darparu);

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 96 o'r Ddeddf honno;

(c)person a benodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (arolygwyr) wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 28(1) o'r Ddeddf honno;

(d)Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) (ymchwiliadau);

(e)archwilydd sydd wedi ei benodi o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) i archwilio cyfrifon awdurdod gwella Cymreig wrth arfer y swyddogaeth o gynnal yr archwiliad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2);

(b)ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.

(4)Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos yn angenrheidiol neu'n hwylus i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (3).

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud gorchymyn o'r fath onid ydynt wedi ymgynghori â'r canlynol—

(a)personau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig;

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(c)pan fo'r gorchymyn yn newid y swyddogaethau perthnasol sydd wedi'u pennu mewn cysylltiad â rheoleiddiwr perthnasol, y rheoleiddiwr hwnnw;

(d)pan fo'r gorchymyn yn ychwanegu person at y rhestr o reoleiddwyr perthnasol, y person hwnnw.

(6)Ond nid yw is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fod wedi ymgynghori â pherson a sefydlwyd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad os nad yw'r deddfiad mewn grym ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn.

Archwiliadau ac asesiadau gwella

17Gwybodaeth am welliannau a chynllunio ar gyfer gwella: archwilio

Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad er mwyn penderfynu—

(a)a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni yn ystod y flwyddyn honno ei ddyletswydd o dan adran 15(1) i (7); a

(b)i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8).

18Asesiadau gwella

(1)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Ynghyd ag asesiad o dan is-adran (1), caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw'r awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod blynyddoedd ariannol dilynol.

19Adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu

(1)Bob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig adroddiad neu adroddiadau—

(a)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r archwiliad, yn credu—

(i)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (7); a

(ii)bod yr awdurdod wedi gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

(c)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal asesiad o dan adran 18 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol;

(d)sy'n disgrifio i ba raddau y mae gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd i'r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 33 wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gynnal yr asesiad hwnnw;

(e)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol;

(f)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, gamau y dylai'r awdurdod eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu weithredu'n unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) (p'un ai mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol honno neu flwyddyn ariannol ddiweddarach);

(g)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, y dylai Gweinidogion Cymru—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29 ac, os felly, y math o gyfarwyddyd;

(h)sy'n datgan, yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, a yw'r Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig o dan adran 21.

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o unrhyw adroddiad a ddyroddir o dan yr adran hon i'r awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i gopïau o adroddiad gael eu hanfon yn unol ag is-adran (2)—

(a)erbyn 30 Tachwedd yn ystod y flwyddyn ariannol y cafodd yr archwiliad ei gynnal ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi; neu

(b)erbyn unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, bennu dyddiad ar gyfer anfon adroddiad mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig penodedig sy'n wahanol i'r dyddiad a fyddai'n gymwys fel arall o dan is-adran (3)—

(a)os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydd o'r fath; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n eithriadol.

20Ymateb i adroddiadau adran 19

(1)Mae'r is-adrannau canlynol yn gymwys pan fo unrhyw adroddiad a gaiff awdurdod gwella Cymreig o dan adran 19(2)—

(a)yn cynnwys argymhelliad o dan adran 19(1)(f) neu (g); neu

(b)yn datgan o dan adran 19(1)(h) bod Archwilydd Cyffredinol Cymru o blaid cynnal arolygiad arbennig.

(2)Rhaid i'r awdurdod baratoi datganiad ynghylch—

(a)unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i'r adroddiad; a

(b)yr amserlen y mae'n ei chynnig ar gyfer cymryd y camau hynny.

(3)Rhaid i ddatganiad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) gael ei baratoi—

(a)cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu

(b)os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Rhaid i'r awdurdod ymgorffori'r datganiad yn ei gynllun gwella ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

(5)Os bydd yr adroddiad yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad at Weinidogion Cymru—

(a)cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu

(b)os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae diwrnod gwaith yn ddiwrnod nad yw—

(a)yn ddydd Sadwrn nac yn ddydd Sul;

(b)yn Ddydd Nadolig nac yn Ddydd Gwener y Groglith; neu

(c)yn unrhyw ddydd sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru a Lloegr.

Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol Cymru

21Arolygiadau arbennig

(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon—

(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y gallai'r awdurdod fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon; neu

(b)os bydd unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn hysbysu'r Archwilydd Cyffredinol y gallai'r awdurdod, ym marn y rheoleiddiwr, fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2)Er hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol wneud y canlynol cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad—

(a)ymgynghori â Gweinidogion Cymru; a

(b)mewn achos lle mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi datgan mewn adroddiad o dan adran 19(1)(h) bod yr Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig, ystyried unrhyw ddatganiad ar ffurf ymateb a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 20(3).

(3)Caiff arolygiad o dan is-adran (1) ymwneud â'r cyfan neu rai o swyddogaethau awdurdod.

(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â'r cyfarwyddyd.

(5)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (4) ymwneud â rhai neu'r cyfan o swyddogaethau awdurdod.

(6)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol.

(7)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru hysbysu awdurdod gwella Cymreig—

(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu cynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (1); neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo'r Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (4).

(8)Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swyddogaethau y bydd yr arolygiad yn ymwneud â hwy.

(9)Wrth gynnal arolygiad ac, yn achos arolygiad o dan is-adran (1), wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(10)At ddibenion y Rhan hon, cyfeirir at arolygiad o dan yr adran hon fel arolygiad arbennig.

(11)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at swyddogaethau awdurdod yn cynnwys trefniadau sy'n cael eu gwneud i hwyluso neu gefnogi'r modd yr arferir y swyddogaethau hynny.

22Adroddiadau am arolygiadau arbennig

(1)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal arolygiad arbennig, rhaid i'r Archwilydd ddyroddi adroddiad.

(2)O ran adroddiad—

(a)rhaid iddo grybwyll unrhyw fater y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu amdano, o ganlyniad i'r arolygiad, fod yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu ei bod yn bosibl i'r awdurdod fethu yn y cyswllt hwnnw, a

(b)caiff argymell, os yw'n crybwyll mater o dan baragraff (a), fod Gweinidogion Cymru yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r ddau, sef—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pwer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29.

(3)O ran yr Archwilydd Cyffredinol—

(a)rhaid iddo anfon copi o adroddiad at yr awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru;

(b)os gwneir argymhelliad o dan is-adran (2)(b) mewn adroddiad, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu i'r argymhelliad gael ei gyhoeddi; a

(c)caiff gyhoeddi adroddiad ac unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad ag adroddiad.

(4)Os bydd adroddiad yn datgan bod yr Archwilydd Cyffredinol yn credu, o ganlyniad i arolygiad, fod awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r cynllun gwella nesaf a baratoir gan yr awdurdod gofnodi—

(a)y ffaith honno, a

(b)unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd, neu sydd i'w cymryd, gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adroddiad.

(5)Os bydd adroddiad yn ymwneud i unrhyw raddau â gweinyddiaeth budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor, a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gweld yn dda i wneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o'r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

23Cydlynu archwiliad etc

(1)Rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r angen am gydlynu wrth arfer swyddogaethau rheoleiddio.

(2)Ystyr “swyddogaethau rheoleiddio” yw swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-adran (7).

(3)Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, ar ôl ymgynghori â'r rheoleiddwyr perthnasol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen ar gyfer pob awdurdod gwella Cymreig sy'n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â'r dyddiadau neu'r amserau yn y flwyddyn honno pryd y dylai—

(a)rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn cysylltiad ag awdurdod; a

(b)yr Archwilydd Cyffredinol arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7) mewn cysylltiad ag awdurdod.

(4)Caniateir i'r ddyletswydd o dan is-adran (3) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy'n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.

(5)Mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig, rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol, ac i'r Archwilydd Cyffredinol wrth arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7), gymryd pob cam rhesymol i lynu wrth yr amserlen a luniwyd mewn perthynas â'r awdurdod o dan is-adran (3).

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo'r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).

(7)Swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol o dan—

(a)adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004; a

(b)adrannau 17 i 19 o'r Mesur hwn.

24Adroddiadau gwella blynyddol

(1)Mewn perthynas â phob awdurdod gwella Cymreig, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad (“adroddiad gwella blynyddol”) sy'n crynhoi neu'n atgynhyrchu'r adroddiadau sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (2).

(2)Yr adroddiadau yw—

(a)pob adroddiad a ddyroddir mewn cysylltiad â'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol honno o dan adran 19;

(b)unrhyw adroddiad o arolygiad arbennig o awdurdod a ddyroddir o dan adran 22 yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyhoeddi adroddiad gwella blynyddol pob awdurdod gwella Cymreig;

(b)pwyso a mesur, yng ngoleuni adroddiad gwella blynyddol awdurdod, a ddylid—

(i)argymell i reoleiddiwr perthnasol ynghylch sut y dylai'r rheoleiddiwr arfer swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;

(ii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

(iii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod o dan adran 29;

(iv)arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â'r awdurdod;

(c)cyflwyno unrhyw argymhelliad sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (b)(i) i (iii) ac y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu y dylid ei gyflwyno.

25Datganiad o arfer

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—

(a)adolygu'r datganiad; a

(b)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.

(3)Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).

(4)Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—

(a)adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);

(b)adran 18 (asesiadau gwella);

(c)adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);

(d)adran 23 (cydlynu archwiliad etc);

(e)adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).

(5)Yr egwyddorion yw—

(a)y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;

(b)y dylai personau a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 gyflawni eu cyfrifoldebau'n annibynnol;

(c)ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;

(d)y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

(7)Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.

(8)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).

26Pwerau a dyletswyddau arolygwyr

(1)Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a

(b)i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.

(2)Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.

(3)Caiff arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.

(4)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.

(5)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—

(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.

(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.

(8)Rhaid i arolygydd—

(a)oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a

(b)os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.

(9)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(10)Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.

(11)Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol neu berson sy'n darparu gwasanaethau i'r Archwilydd Cyffredinol ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.

27Ffioedd

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;

(b)asesiadau a gynhelir o dan adran 18;

(c)arolygiadau arbennig.

(2)Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i Archwilydd Cyffredinol Cymru y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.

(4)Os yw'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).

(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â'r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)personau y mae'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).

(6)Bydd adran 21 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd a ragnodir gan y Cynulliad) yn cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'n cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd a ragnodir o dan adran 20(1) o'r Ddeddf honno, ond gyda'r addasiadau canlynol—

(a)yn is-adrannau (3) a (4) o adran 21, bod “section 27(3) and (4) of the Local Government (Wales) Measure 2009” wedi ei roi yn lle “section 20(4) and (5)”;

(b)bod is-adran (5)(c) wedi ei hepgor.

Gweinidogion Cymru

28Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig

(1)Os ydynt wedi cydymffurfio ag is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent o'r farn ei fod yn debyg o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;

(b)i gydweithredu gydag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;

(c)i arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw;

(d)i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.

(3)Onid ydynt yn arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wneir o dan is- adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â—

(a)yr awdurdod gwella Cymreig neu'r awdurdodau gwella Cymreig y maent yn bwriadu ei gynorthwyo neu eu cynorthwyo wrth arfer y pŵer; a

(b)y personau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru mai hwy yw'r prif randdeiliaid yr effeithir arnynt wrth arfer y pŵer y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(4)Os yw awdurdod gwella Cymreig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ddylent arfer eu pŵer o dan is-adran (1).

29Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ynghylch unrhyw un o'r canlynol—

(a)bod—

(i)yr awdurdod wedi bod yn wrthrych camau gan Weinidogion Cymru i arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a

(ii)yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon a bod y methiant hwnnw, neu'r methiant tebygol, yn ymwneud â gofyniad sydd wedi ei grybwyll yn is-baragraff (i);

(b)bod—

(i)yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a

(ii)bod brys y sefyllfa neu ganlyniadau posibl y methiant, neu'r methiant tebygol, yn golygu ei bod yn briodol arfer pŵer o dan yr adran hon er gwaethaf y ffaith nad yw Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; neu

(c)bod—

(i)yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon;

(ii)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu eu bod am arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; a

(iii)y pŵer o dan adran 28 yn methu â chael ei arfer yn effeithiol oherwydd bod yr awdurdod wedi methu â chydweithredu â Gweinidogion Cymru.

(2)Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru ei gyfarwyddo i wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)paratoi neu ddiwygio cynllun gwella neu ddilyn gweithdrefnau penodedig mewn perthynas â chynllun o'r fath;

(b)cynnal adolygiad o'r modd y mae'n arfer swyddogaethau penodedig;

(c)ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig arall;

(d)gosod amcanion gwella penodedig iddo'i hun o dan adran 3.

(3)Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal i'r modd y mae swyddogaethau penodol awdurdod yn cael eu harfer.

(4)Bydd is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ymchwiliadau) yn gymwys o ran ymchwiliad y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo ei gynnal o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'r is-adrannau hynny'n gymwys o ran ymchwiliad y perir iddo gael ei gynnal o dan yr adran honno.

(5)Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(6)Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—

(a)bod rhaid i swyddogaeth benodedig sydd gan yr awdurdod gael ei harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt am gyfnod sydd wedi ei bennu yn y cyfarwyddyd, neu cyhyd ag y bydd Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn briodol; a

(b)bod rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno, a bod rhaid iddo roi unrhyw gymorth y bydd ar Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt ei angen er mwyn arfer y swyddogaeth.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—

(a)sy'n ymwneud â deddfiad sy'n rhoi swyddogaeth iddynt mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau awdurdod gwella Cymreig; a

(b)y maent yn credu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion achosion lle maent yn gwneud cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(a).

(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7), mewn perthynas â'r achosion sydd wedi eu crybwyll yn is-adran (6)(b)—

(a)datgymhwyso neu addasu deddfiad o'r math sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (7)(a);

(b)cael effaith sy'n debyg i effaith deddfiad o'r math hwnnw.

(9)Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd—

(a)y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru;

(b)y gall Gweinidogion Cymru ei gyhoeddi yn ei gyfanrwydd neu gyhoeddi rhan ohono.

30Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod gwella Cymreig nad yw adran 29 yn gymwys iddo.

(2)Ar ôl iddynt ymgynghori'n gyntaf â'r awdurdod, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig y mae adran 29 yn gymwys iddo.

(3)Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru.

31Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd

(1)Os bydd Gweinidogion Cymru yn meddwl bod deddfiad yn atal neu'n rhwystro awdurdodau gwella Cymreig rhag cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, caniateir iddynt drwy orchymyn wneud darpariaeth sy'n addasu neu'n eithrio'r modd y mae'r deddfiad yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)pob awdurdod gwella Cymreig;

(b)awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu

(c)disgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth sy'n rhoi—

(a)i bob awdurdod gwella Cymreig;

(b)i awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu

(c)i ddisgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig,

unrhyw bŵer y maent yn credu ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i ganiatáu neu hwyluso cydymffurfedd â gofynion y Rhan hon.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)gosod amodau ar y modd y mae unrhyw bŵer a roddir gan y gorchymyn (gan gynnwys amodau am ymgynghori neu gymeradwyo) yn cael ei arfer;

(b)diwygio deddfiad.

(4)Wrth arfer pŵer a roddir o dan is-adran (2), rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Ddehongli 1978).

32Gorchmynion o dan adran 31: y weithdrefn

(1)Cyn bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt gan gynigion Gweinidogion Cymru.

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn cynnig gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sy'n esbonio eu cynigion ac, yn benodol—

(a)sy'n gosod eu cynigion ar ffurf gorchymyn drafft; a

(b)sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (1).

(3)Pan fo dogfen sy'n ymwneud â chynigion yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 31 i roi effaith i'r cynigion (gydag addasiadau neu hebddynt) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad tan ar ôl i'r cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ei gosod ddirwyn i ben.

(4)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(5)Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 31 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3).

(6)Ynghyd â gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 50(6), rhaid bod datganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (5), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2) uchod.

(7)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben sydd wedi ei grybwyll yn adran 50(7).

Amrywiol ac atodol

33Rhannu gwybodaeth

(1)At ddibenion yr adran hon, ystyr y “grŵp rhannu gwybodaeth” yw'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(2)Caiff aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth ofyn, at ddibenion arfer ei swyddogaethau perthnasol, i aelod arall o'r grŵp ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau penodedig iddo.

(3)Rhaid i aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth gydymffurfio â chais a wneir o dan is-adran (2) i'r graddau—

(a)y mae'r cais yn ymwneud â gwybodaeth a gafodd yr aelod, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r aelod hwnnw, wrth iddo arfer ei swyddogaethau perthnasol; a

(b)y mae'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

(4)Y canlynol yw swyddogaethau perthnasol aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth—

(a)yn achos rheoleiddiwr perthnasol, ei swyddogaethau perthnasol o dan adran 16;

(b)yn achos Archwilydd Cyffredinol Cymru, y swyddogaethau sydd wedi'u crybwyll yn adran 23(7).

34Y modd y mae gwybodaeth i'w defnyddio gan reoleiddwyr

Caiff rheoleiddiwr perthnasol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae'n ei chael, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r rheoleiddiwr, wrth arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol at ddibenion swyddogaethau'r rheoleiddiwr o dan y Mesur hwn.

35Rhan 1: dehongli

(1)At ddibenion y Rhan hon—

  • mae i'r ymadrodd “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 21;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod gwella Cymreig” (“Welsh improvement authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1(c);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw blwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill;

  • ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw'r cynllun y cyfeiriwyd ato yn adran 15(6);

  • mae i'r ymadrodd “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 11(1);

  • ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person a grybwyllwyd yn adran 16(2);

  • ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”), mewn perthynas â rheoleiddiwr perthnasol, yw'r swyddogaethau a bennwyd mewn cysylltiad â'r rheoleiddiwr yn adran 16(2);

  • ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio awdurdod gwella Cymreig.

(2)At ddibenion y Rhan hon, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at awdurdod gwella Cymreig yn arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at gyflawni gweithredoedd cysylltiedig (megis gwneud trefniadau gweinyddol).

36Cyllid

(1)Mae adran 33 o Deddf Llywodraeth Leol 1999 (cyllid) wedi'i diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3)—

(a)rhowch “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales”;

(b)ar ddiwedd paragraff (b), ychwanegwch “or the Local Government (Wales) Measure 2009”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources