xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae unrhyw bŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol,
(b)i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol, ac
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, arbed neu drosiannol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur hwn (yn ogystal â bod yn arferadwy mewn perthynas â'r holl achosion y mae'n gymwys iddynt) gael ei arfer mewn perthynas â'r holl achosion hynny yn ddarostyngedig i eithriadau neu mewn perthynas ag unrhyw achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5) mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn agored i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 12(3) yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 12(3)
I2A. 10 mewn grym ar 2.9.2013 gan O.S. 2013/1985, ergl. 2(b)