Ymchwilio i Gwynion

10Ymchwilio gan y Comisiynydd i Gwynion

1

Rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio i gwynion ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar ganlyniad ymchwiliadau, yn unol â'r canlynol —

a

darpariaethau'r Rheolau Sefydlog, a

b

unrhyw reolau sy'n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad sydd wedi'u mabwysiadu gan y Cynulliad o dan y Rheolau Sefydlog.

2

Yn ddarostyngedig i is-adran (1), mater i'r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.

3

O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), caiff y Comisiynydd wrthod cwyn yn ddiannod heb gyflwyno adroddiad arni i'r Cynulliad ond rhaid yn hytrach iddo gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i'r Aelod Cynulliad o dan sylw ac i'r person a wnaeth y gŵyn, gan roi rhesymau dros ei gwrthod.

4

Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i'r Cynulliad ar ganlyniad ymchwiliad gynnwys argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr Aelod Cynulliad o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.

5

Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad, am unrhyw amgylchiadau—

a

sy'n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn) , neu

b

a allai, ar ôl rhagor o ystyriaeth gan y Clerc, arwain at ddyletswydd ar y Clerc o dan adran 9,

rhaid i'r Comisiynydd fynegi'r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i'r Clerc.