Search Legislation

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

Newidiadau dros amser i: ATODLEN

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ATODLEN. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 3)

ATODLENLL+CComisiynydd Safonau [F1Y Senedd]

This schedule has no associated Explanatory Notes

Diwygiadau Testunol

F1Gair ym mhennawd yr Atod. wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(5)(a)

Ei benodiLL+C

1Rhaid i'r [F2Senedd] wneud trefniadau —

(a)i sicrhau bod unrhyw berson a benodir yn Gomisiynydd wedi'i nodi drwy gystadleuaeth deg ac agored, a

(b)i bennu'r telerau y bydd y penodiad hwnnw, o'i wneud, yn effeithiol odanynt.

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

2Caniateir i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1, (ond nid penodi'r person a nodir fel hyn,) gael eu dirprwyo gan y [F2Senedd], yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r Comisiwn, i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad neu i staff y [F2Senedd] a chaniateir i'r trefniadau hynny gynnwys personau sy'n annibynnol ar y [F2Senedd].

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Corfforaeth undynLL+C

3Mae'r person sydd am y tro yn dal swydd Comisiynydd Safonau [F3y Senedd] i fod yn gorfforaeth undyn, o dan enw'r swydd honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

DogfennauLL+C

4(1)Mae gosod sêl y Comisiynydd i'w ddilysu —

(a)â llofnod y Comisiynydd, neu

(b)â llofnod unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd at y diben hwnnw.

(2)Caniateir i ddogfen sy'n honni ei bod wedi'i gweithredu'n briodol o dan sêl y Comisiynydd neu ei bod wedi'i llofnodi ar ran y Comisiynydd gael ei derbyn fel tystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi'i gweithredu felly neu wedi'i llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

AriannolLL+C

5(1)Rhaid i'r Comisiwn —

(a)talu i'r Comisiynydd unrhyw gyflog ac unrhyw lwfansau, a

(b)gwneud unrhyw daliadau tuag at ddarparu buddion blwydd-dal ar gyfer y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

y darperir ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(2)Rhaid i'r Comisiwn dalu i berson neu mewn perthynas â pherson sydd wedi rhoi'r gorau i ddal swydd y Comisiynydd unrhyw symiau (os oes rhai) ar ffurf —

(a)pensiwn neu roddion, neu

(b)darpariaeth ar gyfer y buddion hynny,

y darparwyd ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(3)Rhaid i'r Comisiwn dalu unrhyw rwymedigaethau rhesymol y mae'r Comisiynydd wedi'u hysgwyddo'n gyfreithlon —

(a)wrth gyflogi staff,

(b)wrth sicrhau bod nwyddau neu wasanaethau'n cael eu darparu, ac

(c)mewn perthynas â lwfansau a threuliau personau sy'n rhoi tystiolaeth neu sy'n cyflwyno dogfennau.

(4)Mae symiau y mae eu hangen er mwyn gwneud taliadau o dan is-baragraffau (1) a (2) i'w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Staff, nwyddau a gwasanaethau LL+C

6(1)Caiff y Comisiynydd, ar unrhyw delerau a bennir gan y Comisiynydd, benodi unrhyw staff neu sicrhau y darperir unrhyw nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(2)Caiff y Comisiynydd wneud trefniadau gydag unrhyw gorff cyhoeddus neu ddeiliad swydd gyhoeddus, ar unrhyw delerau y bydd y Comisiynydd a'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw yn cytuno arnynt, i'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw ddarparu unrhyw wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Wrth arfer pwerau o dan is-baragraffau (1) a (2) neu o dan adran 11(3), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i gyfrifoldebau'r Clerc, yn rhinwedd ei swydd fel prif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn, o dan adran 138(3)(a) o'r Ddeddf.

(4)O ran unrhyw rwymedigaeth y gall fod yn ofynnol i'r Comisiwn ei thalu o dan baragraff 5(3), rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Clerc a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cyn ysgwyddo'r rhwymedigaeth o dan sylw,

(b)os nad yw, cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y Clerc pan ymgynghorir â'r Clerc o dan is-baragraff (4).

(6)Gall dyletswydd y Comisiynydd i ymgynghori â'r Clerc o dan is-baragraff (4) gael ei chyflawni mewn perthynas â rhwymedigaeth benodol naill ai—

(a)drwy roi manylion y rhwymedigaeth o dan sylw i'r Clerc, neu

(b)drwy hysbysu'r Clerc y gallai rhwymedigaethau o ddisgrifiad penodol hyd at gyfanswm penodedig gael eu hysgwyddo,

ar yr amod, pan fo (b) yn gymwys, fod y rhwymedigaeth benodol o dan sylw yn dod o fewn y disgrifiad a hysbyswyd ac nad yw, o'i chymryd ynghyd ag unrhyw rwymedigaethau eraill y mae'r hysbysiad hwnnw'n cyfeirio atynt, yn fwy na'r cyfanswm a hysbyswyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Gwybodaeth AriannolLL+C

7Rhaid i'r Comisiynydd roi i'r Comisiwn unrhyw wybodaeth am faterion a thrafodion ariannol y Comisiynydd y mae'n rhesymol i'r Comisiwn ofyn amdani i'w alluogi i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y Comisiwn gan gyfarwyddyd a roddir i'r Comisiwn mewn perthynas â'r Comisiynydd o dan adran 137(1) a (2) o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 7 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources