Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Rhan 1: Tlodi Plant, Chwarae a Chyfranogi

3.Mae Rhan 1 o'r Mesur yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfrannu at ddileu tlodi plant, yn darparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant ac yn gwneud darpariaeth ynghylch trefnu i blant gyfranogi mewn penderfyniadau gan awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt hwy.

Rhan 1, Pennod 1: Dileu Tlodi Plant
Adran 1: Y nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant

4.Yn yr adran hon gosodir cyfres o nodau eang sy'n debyg, os dilynir hwy, o gyfrannu at ddileu tlodi plant. Mae’r nodau eang hyn yn gymwys at ddibenion unrhyw ddarpariaeth bellach a wneir o dan Ran 1.  Mae’r nodau wedi eu pennu ym mharagraffau (a) i (m) o is-adran (2) ac maent yn cynnwys nodau sy'n ymwneud ag incwm teuluol, amddifadedd sylweddol a ffactorau cymdeithasol sy’n berthnasol i achosion tlodi plant. Prif ddiben y rhestr hon o nodau yw gosod y maes y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus penodedig yng Nghymru (gweler adran 6) ddewis amcanion ohono i’w cynnwys yn eu strategaethau tlodi plant (gweler adran 2).

5.Mae is-adran (8) yn gwneud darpariaeth i’r nodau eang gael eu diwygio drwy orchymyn Gweinidogion Cymru. Mae gorchmynion o dan yr is-adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddynt gael eu gwneud, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad cyn iddynt gael eu gwneud (gweler adran 74 (5)).

6.Mae is-adrannau (3) a (4) yn pennu bod y “grwpiau incwm perthnasol” y cyfeirir atynt yn y nodau yn is-adrannau (2)(a) a (b) yn grwpiau incwm a ddiffinnir drwy gyfeirio at incwm aelwyd canolrifol y DU.  Y nod eang yn is-adran (2)(a) yw na fydd unrhyw blant yn byw ar aelwydydd lle mae’r incwm yn llai na 60% o incwm aelwyd canolrifol y Deyrnas Unedig.  Y nod eang yn is-adran (2)(b) yw na fydd unrhyw blant sy’n byw ar aelwydydd lle mae’r incwm yn llai na 70% o incwm aelwyd canolrifol y DU “wedi’u hamddifadu’n sylweddol”.

7.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddweud sut y penderfynir ar incwm canolrifol ac amddifadedd sylweddol at y dibenion hyn.

8.Mae is-adran (6) yn gwneud darpariaeth os digwydd i'r ddyletswydd a osodir ar awdurdodau Cymreig i lunio strategaeth ddod i rym yn gynharach nag unrhyw reoliadau o dan is-adran (5). Os digwydd hynny, rhaid i'r awdurdodau Cymreig ffurfio barn eu hunain ynglŷn â'r hyn a olygir wrth amddifadedd sylweddol a dangosyddion perthynol i incwm canolrifol.

Adran 2: Strategaethau i gyfrannu at ddileu tlodi plant

9.Mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar “awdurdodau Cymreig” i baratoi a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru. Rhaid i’r strategaeth nodi amcanion sydd i'w dewis gan yr awdurdod, sy’n ymwneud â'r nodau eang, yn berthnasol i swyddogaethau'r awdurdod ac yn amcanion y gellir ymgyrraedd atynt drwy arfer y swyddogaethau hynny. Rhaid i'r strategaeth hefyd gynnwys y gweithredoedd sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer gan yr awdurdod at y diben o gyrraedd ei amcanion. Yn achos Gweinidogion Cymru a’r awdurdodau lleol, rhaid iddynt ddewis amcanion sy’n ymwneud â phob un o’r nodau eang.

10.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio eu strategaeth, ddewis amcanion sy'n ymwneud â’u pwerau i ddarparu cyllid i unrhyw berson.

11.Mae is-adran (5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu amcanion penodol i awdurdod Cymreig uwchlaw unrhyw amcanion y gallai’r awdurdod Cymreig ddewis iddo ef ei hun.

12.Rhoddir rhestr o'r awdurdodau Cymreig sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd o lunio a chyhoeddi strategaeth yn adran 6.

13.Gwneir darpariaethau ynglŷn â llunio a chyhoeddi strategaethau yn Adrannau 3 i 5 o’r Mesur hwn, ac yn adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (fel y’i diwygiwyd gan adran 4 o’r Mesur).

Adran 3: Strategaethau a lunnir gan Weinidogion Cymru

14.Mae adran 3 yn nodi darpariaeth ynghylch gwneud, cyhoeddi ac adolygu strategaethau o dan Ran 1 o’r Mesur sy’n cael eu llunio gan Weinidogion Cymru.

15.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o dan y Mesur yn 2010; mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw golwg ar eu strategaeth yn gyson ac yn rhoi pŵer iddynt ail-lunio neu ddiwygio eu strategaeth o bryd i'w gilydd.

16.Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol a’r personau eraill y maent o’r farn eu bod yn briodol cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu eu strategaeth (is-adran (2)).

17.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth (newydd neu ddiwygiedig) gael ei chyhoeddi ac mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw strategaeth newydd neu ddiwygiedig gael ei gosod gerbron y Cynulliad. Ar ôl diwygio, caiff Gweinidogion Cymru naill ai gyhoeddi dogfen sy'n nodi'r diwygiadau neu gyhoeddi'r strategaeth gyda'r diwygiadau wedi eu cynnwys ynddi.

18.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi yn 2013, ac ym mhob drydedd flwyddyn wedi hynny, adroddiad a fydd yn cynnwys asesiad i ba raddau y cyrhaeddwyd yr amcanion, ac os na chyrhaeddwyd unrhyw amcan, y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd yr amcan hwnnw. Rhaid gosod yr adroddiadau gerbron y Cynulliad.

Adran 4: Strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol (awdurdodau gwasanaethau plant)

19.Mae adran 4 yn diwygio adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (“Deddf 2004”) fel bod, yn achos awdurdod lleol, y ddyletswydd i gael strategaeth tlodi plant wedi ei chysylltu â’r ddyletswydd bresennol o dan yr adran honno i baratoi cynllun sy’n dweud, yn fwy cyffredinol, sut y bydd cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Mae is-adran (1) yn darparu y gellir cyflawni dyletswydd yr awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth drwy gyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf 2004. Mae'r ddyletswydd bresennol wedi ei diwygio gan is-adran (3) fel bod rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun ei strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru o dan is-adran 2(1) o’r Mesur.

20.Yn ogystal â'i strategaeth tlodi plant ei hunan, caiff awdurdod lleol gynnwys hefyd strategaethau tlodi plant awdurdodau Cymreig eraill y gwnaeth drefniant â hwy o dan adran 25 o Ddeddf 2004.  Yn hyn o beth, gweler hefyd adran 5(4) a 5(5) sy’n darparu, os yw strategaeth tlodi plant awdurdod Cymreig arall wedi ei hymgorffori yng nghynllun yr awdurdod lleol o dan Ddeddf 2004, fod dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 2 o’r Mesur oherwydd hynny wedi ei chyflawni.

Adran 5: Strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill

21.Mae adran 5 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r strategaethau sydd i'w llunio gan awdurdodau Cymreig eraill ac eithrio Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â gwneud, cyhoeddi ac adolygu eu strategaethau ac ynghylch ymgynghori am eu strategaethau (is-adran (3)).

22.Mae adran 25 o Ddeddf 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau i hybu cydweithrediad rhwng yr awdurdod a’i “bartneriaid perthnasol”, a bennir yn is-adran (4) o’r adran honno.

Mae dau o’r partneriaid hyn hefyd yn awdurdodau Cymreig at ddiben Rhan 1 o’r Mesur, sef bwrdd iechyd lleol ac  Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (os yw’n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod).  Gall yr awdurdodau Cymreig hyn gyflawni  eu dyletswydd o dan adran 2 o’r Mesur drwy drefnu i’r strategaeth gael ei chynnwys fel rhan annatod o gynlluniau pob awdurdod lleol y maent yn ymrwymo i drefniadau gyda hwy o dan Ddeddf 2004 yn hytrach na llunio a chyhoeddi cynllun ar wahân o’u heiddo eu hunain (is-adrannau (4) a (5)).  Dim ond wrth drefnu i’w strategaeth gael ei hymgorffori ym mhob un o gynlluniau’r awdurdodau lleol o dan sylw y bydd awdurdod Cymreig yn cyflawni ei ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth.

Adran 6: Yr awdurdodau Cymreig

23.Mae adran 6 yn pennu pa awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 2 o’r Mesur. Mae is-adran (2) yn caniatáu i’r rhestr gael ei diwygio drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.  Byddai angen i’r cyfryw orchymyn gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddo gael ei wneud (gweler adran 74(5)), a rhaid ymgynghori ag  unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu cyn iddo gael ei ychwanegu at y rhestr (is-adran (3)).

24.Yn is-adran (4) eglurir mai’r unig gyrff y ceir eu cynnwys ar y rhestr yw personau sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus, ac y mae eu prif swyddogaethau yn ymwneud ag un neu ragor o’r meysydd yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni chynhwysir tribiwnlysoedd sy’n dod o fewn y categori hwn.

25.Yn achos unrhyw berson a ychwanegir at y rhestr ac sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a rhai o natur breifat, dim ond mewn perthynas â’r rhai o blith ei swyddogaethau sydd o natur gyhoeddus y caniateir iddo gael ei gynnwys yn y rhestr (is-adran (5)).

Adran 7: Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau bod gofal plant ar gael

26.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau lleoedd gofal plant yn ddi-dâl ar gyfer plant penodol nad ydynt o oedran ysgol gorfodol. Mae gweithrediad yr adran hon yn dibynnu ar ddarpariaeth bellach sydd i’w gwneud mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru ynghylch—

  • y math o ofal plant y mae’n rhaid ei ddarparu,

  • y cyfnodau pryd y mae i fod ar gael,

  • y disgrifiad o’r plentyn y mae’r gofal i’w roi ar gael ar ei gyfer (gan gynnwys yr oedran y mae’n rhaid iddo fod wedi ei gyrraedd).

27.Yn is-adran (3) diffinnir 'gofal plant' fel naill ai gwarchod plant neu ofal dydd, o fath y mae’n rhaid iddo fod wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru(1) o dan Ran 2 o’r Mesur hwn, neu ofal o fath sydd wedi ei gymeradwyo’n unol â chynllun credydau treth a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Adran 8: Gwasanaethau cymorth i rieni: pwerau awdurdod lleol

28.Mae is-adran (1) yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddarparu, sicrhau y darperir, neu gymryd rhan wrth ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd.  Mae’r gwasanaethau hyn wedi eu diffinio yn is-adran (3) fel hyfforddiant mewn sgiliau rhianta neu unrhyw wasanaeth  arall i hybu neu hwyluso rhianta effeithiol.  Bydd awdurdodau’n gallu darparu’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol eu hunain, eu comisiynu oddi wrth eraill neu gydlafurio gydag eraill i’w darparu.

29.Mae is-adran (2) yn mynnu bod rhaid darparu pa bynnag wasanaethau cymorth i rieni a ddarperir gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio'u pwerau o dan is-adran (1) yn ddi-dâl.

Adran 9: Gwasanaethau cymorth iechyd: pwerau awdurdod lleol

30.Mae is-adran (1) yn rhoi i awdurdodau lleol bŵer i ddarparu, sicrhau y darperir, neu gymryd rhan wrth ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd. Mae’r gwasanaethau hyn wedi eu diffinio yn is-adran (4) fel gwasanaethau sy’n darparu cymorth mewn perthynas â iechyd plant neu rieni plant.  Ond yn achos gwasanaethau i rieni plant, mae’n un o amodau arfer y pŵer hwnnw ei bod yn angenrheidiol sicrhau llesiant plant y rhieni hynny.  Nid yw gwasanaethau cymorth iechyd o dan yr adran hon yn cynnwys darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, offthalmig, neu fferyllol.

31.Fel yn achos gwasanaethau cymorth i rieni, caiff awdurdodau naill ai ddarparu’r gwasanaethau yn uniongyrchol eu hunain, eu comisiynu oddi wrth eraill neu gydlafurio gydag eraill i’w darparu.

32.Mae is-adran (2) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol, wrth arfer eu pwerau o dan is-adran (1) i ddarparu, sicrhau y darperir, neu gymryd rhan wrth ddarparu gwasanaethau nyrsio, yn cael cydsyniad y bwrdd iechyd lleol perthnasol.

33.Mae is-adran (3) yn pennu bod rhaid i wasanaethau cymorth iechyd a gwasanaethau ataliol a ddarperir gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio'u pwerau o dan is-adran (1) gael eu darparu yn ddi-dâl.

Adran 10: Rheoliadau am wasanaethau i fynd i’r afael â thlodi plant

Mae adran 10 yn gwneud dau brif beth

34.Yn gyntaf, mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i’r gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau y darperir, yn ddi-dâl, wasanaethau cymorth i rieni neu wasanaethau cymorth iechyd o’r math a ddisgrifir yn adrannau 8 a 9 yn y drefn honno (paragraffau (a) a (b) o is-adran (1)).  Caiff y rheoliadau hynny bennu hefyd—

  • y disgrifiad o’r gwasanaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod ei ddarparu,

  • y disgrifiad o’r plant a’r rhieni y bydd y ddyletswydd yn gymwys iddynt.

35.Yn ail, mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gymhwyso’r ddyletswydd i sicrhau y darperir gofal plant o dan adran 7(1) ac unrhyw ddyletswydd mewn rheoliadau o dan yr adran hon i sicrhau y darperir gwasanaethau cymorth i rieni neu wasanaethau cymorth iechyd mewn dim ond un neu ragor o rannau ardal awdurdod lleol (paragraffau (c) a (d) o is-adran (1).

36.Mae is-adran (2) yn darparu pan fo Gweinidogion Cymru yn pennu ei bod yn ofynnol i wasanaethau gael eu darparu drwy gyfeirio at ardal, caniateir i’r ardal gael ei phennu neu i’r ardaloedd gael eu pennu yn y rheoliadau neu gallai’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ei hun bennu un neu ragor o ardaloedd.

Rhan 1, Pennod 2: Chwarae a Chymryd Rhan
Adran 11: Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant

37.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol wneud asesiad o ddigonolrwydd y cyfleoedd chwarae yn ei ardal yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Cam cychwynnol yw hwn yn y broses o gyflawni’r ddyletswydd a nodir yn is-adran (3).

38.Caiff rheoliadau bennu materion penodol sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu digonolrwydd; erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud asesiad digonolrwydd; amlder yr asesiadau; pa bryd y cyhoeddir yr asesiad; a pha bryd a sut y dylid ei adolygu.

39.Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol yng ngoleuni ei asesiad. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 17(3) o’r Mesur.

40.Mae is-adran (4) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardal ac yn cadw’r wybodaeth honno’n gyfoes.

41.Mae is-adran (5) yn darparu y dylai awdurdod lleol, wrth sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal, ystyried yn benodol anghenion plant sy’n anabl, anghenion plant o wahanol oedrannau, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

42.Mae is-adran (6) yn egluro bod “chwarae” yn cynnwys unrhyw weithgaredd hamdden, a bod y cyfeiriad at “ddigonolrwydd” yn is-adran (1) yn gyfeiriad at nifer ac ansawdd y cyfleoedd chwarae.

Adran 12: Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol

43.Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau ar draws ystod lawn swyddogaethau’r awdurdod sy’n effeithio arnynt. Mae “plant” at y dibenion hyn wedi eu diffinio yn adran 71 yn bersonau sydd o dan 18 oed.

44.Mae is-adran (2) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am eu trefniadau i blant gymryd rhan ac yn cadw’r wybodaeth yn gyfoes.

45.Mae is-adran (3) yn diddymu adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel y’i diwygiwyd. Yr oedd adran 176 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yng Nghymru i roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru ar ymgynghori â disgyblion ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio ar y disgyblion. Mae’r ddyletswydd newydd yn gosod dyletswydd i wneud trefniadau sy’n hybu a hwyluso cyfranogiad y plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnynt. Mae’r hen ddyletswydd wedi ei goddiweddyd gan y ddyletswydd newydd ac eithrio mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n eiddo i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn hytrach nag i’r awdurdod lleol. Mae’r penderfyniadau hynny bellach yn destun darpariaeth ar wahân yn adran 29B o Ddeddf Addysg 2002 (a fewnosodwyd gan adran 157 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008).

Rhan 1, Pennod 3: Arolygu, canllawiau a chyfarwyddiadau
Adran 13: Arolygu

46.Mae adran 13 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu, drwy reoliadau, ar gyfer arolygu’r modd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni’r swyddogaethau a roddir gan adrannau 7 i 12 ac ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu. Caiff y rheoliadau ddarparu bod arolygiadau i’w trefnu naill ai gan Weinidogion Cymru neu gan Estyn (sef yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant o dan arweiniad Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru) neu unrhyw berson arall o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru. Caiff y rheoliadau ddarparu bod adroddiad arolygu yn “freintiedig” at ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, oni ellir dangos i’r adroddiad gael ei gyhoeddi gyda malais.

Adran 14: Pwerau mynediad

47.Mae adran 14 yn darparu pŵer i fynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fangre awdurdod lleol, neu fangre a ddefnyddir mewn cysylltiad darparu gwasanaethau neu gyfleusterau gan berson arall o dan drefniadau gydag awdurdod lleol i gyflawni’r swyddogaethau perthnasol o dan y Rhan hon.  Nid yw hyn yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i fangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.

Adran 15: Pwerau arolygu

48.Mae adran 15 yn nodi’r pwerau arolygu sydd gan bersonau sy’n mynd i mewn i fangre at y diben hwnnw. Mae’r pwerau yn cynnwys y pŵer i ymafael mewn dogfennau neu unrhyw bethau eraill sy’n berthnasol i gyflawni’r swyddogaethau dan sylw, ac i’w symud o’r fangre. Mae’n cynnwys hefyd bŵer i’w gwneud yn ofynnol i ganiatáu mynediad at gofnodion neu ddogfennau a fydd hwyrach wedi eu cadw ar gyfrifiadur. Mae unrhyw berson sy’n rhwystro arolygydd rhag arfer pŵer mynediad neu bŵer arolygu, neu’n peidio â chydymffurfio â gofyniad arolygydd, yn cyflawni tramgwydd y gellir ei gosbi ar gollfarniad mewn Llys Ynadon â dirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd).

Adran 16: Pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi

49.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud yn ofynnol bod awdurdod lleol neu unrhyw berson yr ymrwymodd yr awdurdod lleol i drefniadau gydag ef wrth arfer y swyddogaethau o dan adrannau 7 i 10, yn darparu iddynt wybodaeth, dogfennau neu gofnodion sy’n  berthnasol. Mae’r pŵer yn cynnwys unrhyw wybodaeth, dogfennau neu gofnodion sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12 ac sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon ac mae hefyd yn cwmpasu sefyllfa lle mae person ar wahân i Weinidogion Cymru yn cynnal arolygiadau am fod rheoliadau o dan adran 13(2) yn darparu ar gyfer hynny.

Adran 17: Canllawiau

50.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau pan fo’r canllawiau yn ymwneud ag arfer y swyddogaethau penodol o dan adrannau 1 i 10 neu’n ymwneud yn fwy cyffredinol â chamau i hyrwyddo'r amcanion eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

51.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ar wahân sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon mewn perthynas â’i swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12.

Adran 18: Cyfarwyddiadau

52.Mae adran 18 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod Cymreig i gymryd camau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12, os credir bod yr awdurdod Cymreig yn methu, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio â’r dyletswyddau hynny.

1

Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran cofrestru ac arolygu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yn cael eu cyflawni gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources