Adran 21 Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru
59.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar warchodwyr plant yng Nghymru i gael eu cofrestru gan Weinidogion Cymru. Rhaid i berson gael ei gofrestru fel gwarchodwr plant gan Weinidogion Cymru cyn gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru (is-adran (1)). Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi i unrhyw berson y credant ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant, ac yntau heb ei gofrestru, i wneud hynny, fel cam cychwynnol cyn cymryd mesurau gorfodi pellach os na chydymffurfir â’r hysbysiad (is-adran 2). Mae hysbysiadau gorfodi yn effeithiol am un flwyddyn o'r dyddiad y’i cyflwynir. Mae gwarchodwr plant anghofrestredig yn cyflawni tramgwydd os cyflwynwyd iddo hysbysiad gorfodi a’i fod wedyn, heb esgus rhesymol, yn gweithredu fel gwarchodwr plant (is-adran (5)). Mae is-adran (6) yn darparu bod person a geir yn euog mewn Llys Ynadon o dramgwydd o dan is-adran (5) yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).