RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU
Canllawiau a chyfarwyddiadau
17Canllawiau
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdod Cymreig arall o bryd i'w gilydd ynghylch—
a
arfer swyddogaethau o dan adrannau 1 i 10, neu
b
unrhyw gam i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.
2
Rhaid i awdurdod Cymreig roi sylw i'r canllawiau wrth arfer ei swyddogaethau.
3
Wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
18Cyfarwyddiadau
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.
3
O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
c
mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.