xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 1DILEU TLODI PLANT

Y nodau eang

1Y nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Y nodau eang i gyfrannau at ddileu tlodi plant yw—

(a)cynyddu incwm i aelwydydd sy'n cynnwys plentyn neu blant gyda'r bwriad o sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, nad oes unrhyw aelwyd yn y grŵp incwm perthnasol;

(b)sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, nad yw plant sy'n byw ar aelwydydd yn y grŵp incwm perthnasol wedi'u hamddifadu'n sylweddol;

(c)hybu a hwyluso cyflogaeth am dâl i rieni plant;

(d)darparu i rieni plant y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth am dâl;

(e)lleihau anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant;

(f)cefnogi rhianta plant;

(g)lleihau anghydraddoldebau mewn iechyd rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant);

(h)sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus;

(i)sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn cymunedau diogel a chydlynus;

(j)lleihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant);

(k)cynorthwyo personau ifanc i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg a hyfforddiant;

(l)cynorthwyo personau ifanc i fanteisio ar gyfleoedd i gael cyflogaeth;

(m)cynorthwyo personau ifanc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a), y “grŵp incwm perthnasol”, mewn perthynas ag aelwyd, yw pob aelwyd sy'n cynnwys plentyn neu blant lle y mae incwm yr aelwyd yn llai na 60% o incwm canolrifol yn y Deyrnas Unedig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(b), y “grŵp incwm perthnasol”, mewn perthynas ag aelwyd, yw pob aelwyd sy'n cynnwys plentyn neu blant lle y mae incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm canolrifol yn y Deyrnas Unedig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer penderfynu amddifadedd sylweddol ac incwm canolrifol mewn perthynas ag aelwyd at ddibenion yr is-adran hon.

(6)Os nad oes rheoliadau o dan is-adran (5) mewn grym, mae awdurdod Cymreig i wneud ei benderfyniad ei hun ar amddifadedd sylweddol ac ar incwm canolrifol mewn perthynas ag aelwyd at ddibenion yr is-adran hon.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd 11 oed ond heb gyrraedd 26 oed.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff o is-adran (2);

(b)ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath;

(d)diwygio neu hepgor is-adrannau (3), (4), (5), (6) a (7);

(e)ychwanegu is-adrannau sy'n ymwneud ag is-adran (2);

(f)diwygio neu hepgor y cyfryw is-adrannau ychwanegol;

(g)gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r Rhan hon sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (f).

Strategaethau

2Strategaethau i gyfrannu at ddileu tlodi plant

(1)Rhaid i awdurdod Cymreig lunio a chyhoeddi strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru sy'n gosod pob un o'r canlynol—

(a)amcanion a ddewiswyd gan yr awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4))—

(i)sy'n ymwneud ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(ii)y gellir eu dilyn wrth iddo arfer ei swyddogaethau;

(b)unrhyw amcanion a bennir mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (5);

(c)camau sydd i'w cyflawni a swyddogaethau sydd i'w harfer gan yr awdurdod at ddibenion cyflawni'r amcanion o dan baragraff (a) ac, os pennir unrhyw amcanion mewn perthynas â'r awdurdod mewn rheoliadau o dan is-adran (5), o dan baragraff (b).

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r camau ac arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) yn unol â'i strategaeth.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdod lleol ddewis ystod o amcanion o dan is-adran (1)(a) sy'n ymwneud â'r holl nodau eang i ddileu tlodi plant.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddewis amcanion o dan is-adran (1)(a)—

(a)sy'n ymwneud â'u pwerau i ddarparu cyllid i unrhyw berson, a

(b)sy'n hybu'r nodau eang i ddileu tlodi plant.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru bennu amcanion ar gyfer awdurdod Cymreig mewn rheoliadau—

(a)os yw'r amcanion yn ymwneud ag un o'r nodau eang neu fwy ohonynt ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(b)os caniateir i awdurdod Cymreig ddilyn yr amcanion wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5) hefyd ddarparu nad yw is-adran (1)(a) a pharagraff (c) o'r is-adran honno (fel y mae'n ymwneud ag is-adran (a)) yn gymwys i awdurdod Cymreig i'r graddau a bennir yn y rheoliadau.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at gam sydd i'w gyflawni neu at swyddogaeth sydd i'w harfer gan awdurdod Cymreig yn gyfeiriad at gam neu swyddogaeth sydd o fewn pwerau awdurdod Cymreig.

(8)O ran darparu ynghylch llunio a chyhoeddi strategaethau, gweler adrannau 3 i 5 o'r Mesur hwn ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).

3Strategaethau a lunnir gan Weinidogion Cymru

(1)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o dan y Rhan hon yn 2010,

(b)rhaid iddynt gadw golwg ar eu strategaeth yn gyson, ac

(c)cânt o bryd i'w gilydd ail-lunio neu adolygu eu strategaeth.

(2)Cyn llunio, ail-lunio neu adolygu eu strategaeth, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol, a

(b)y personau eraill hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

(3)Nid yw darpariaethau is-adran (2)(a) i'w dehongli fel pe baent yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'n gosod dyletswydd arno.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth pan fyddant yn ei llunio a phryd bynnag y byddant yn ei hail-lunio; ac os byddant yn adolygu'r strategaeth heb ei hail-lunio, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r diwygiadau neu'r strategaeth fel y'i diwygiwyd (fel y maent yn barnu sy'n briodol).

(5)Os bydd Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi strategaeth neu ddiwygiadau o dan is-adran (4) rhaid iddynt osod copi o'r strategaeth neu'r diwygiadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru yn 2013, ac ym mhob trydedd blwyddyn ar ôl 2013—

(a)cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys asesiad—

(i)i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion sydd yn eu strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a

(ii)os na chyflawnwyd un o'r amcanion, i ba raddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni'r amcan;

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4Strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol (awdurdodau gwasanaethau plant)

(1)Bydd dyletswydd awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth o dan adran 2(1) wedi ei chyflawni pan fydd yr awdurdod yn cyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).

(2)Diwygier Deddf Plant 2004 (p. 31) fel a ganlyn.

(3)Yn adran 26 (cynlluniau plant a phersonau ifanc)—

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1A)A children’s services authority in Wales must, in accordance with regulations made by the Welsh Ministers, prepare and publish a plan setting out the authority’s strategy for discharging their functions in relation to children and relevant young persons.

(1B)A children’s services authority in Wales must include in their plan—

(a)the arrangements made or to be made under section 25 by the authority;

(b)the children’s services authority’s strategy under section 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 (strategies for contributing to the eradication of child poverty).

(1C)A children’s services authority in Wales may include in their plan—

(a)the strategy or proposals in relation to children and relevant young persons of any partner of the authority;

(b)the strategy under section 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 (strategies for contributing to the eradication of child poverty) of any partner of the authority.

(1D)The powers of a children’s services authority in subsection (1C) are subject to any duty imposed in regulations under subsection (2)(a).;

(b)yn is-adran (3)(b), yn lle “person or body with whom a children’s services authority in Wales makes or proposes to make such arrangements” rhodder “partner”;

(c)yn lle is-adran (6) rhodder—

(6)In this section—

(4)Yn adran 66 (rheoliadau a gorchmynion), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Any statutory instrument containing regulations made under section 26 by the Welsh Ministers is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(8)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the National Assembly for Wales procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule..

5Strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill

(1)Yn yr adran hon nid yw cyfeiriad at “awdurdod Cymreig” yn cynnwys—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys i strategaeth awdurdod Cymreig o dan adran 2.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)y cyfnod y mae'r strategaeth i ymwneud ag ef;

(b)pryd a sut y mae'n rhaid cyhoeddi strategaeth;

(c)cadw golwg gyson ar strategaeth;

(d)ymgynghori cyn cyhoeddi strategaeth.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i awdurdod Cymreig os bydd y ddau baragraff canlynol yn gymwys—

(a)bod yr awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynglŷn ag ardal neu ardaloedd awdurdod lleol;

(b)bod yr awdurdod Cymreig wedi ymrwymo i drefniant o dan adran 25 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) â phob un o'r awdurdodau lleol hynny.

(5)Bydd dyletswydd awdurdod Cymreig o dan adran 2(1) i gyhoeddi strategaeth wedi ei chyflawni os yw'r strategaeth yn rhan annatod o gynllun a gyhoeddir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) gan bob awdurdod lleol yr ymrwymodd mewn trefniant ag ef o dan adran 25 o'r Ddeddf honno.

Yr awdurdodau Cymreig

6Yr awdurdodau Cymreig

(1)At ddibenion y Mesur hwn, mae pob un o'r canlynol yn “awdurdod Cymreig”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)Awdurdod tân ac achub yng Nghymru, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(e)Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

(g)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(h)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(i)Amgueddfa Genedlaethol Cymru;

(j)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Cyngor Chwaraeon Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —

(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1), ac eithrio paragraff (a) a (b);

(b)ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;

(c)diwygio neu hepgor y cyfryw baragraffau ychwanegol;

(d)gwneud unrhyw ddiwygiadau i adran 5 sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (c).

(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) i gynnwys person yn is-adran (1) neu i symud person o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person hwnnw.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol o fewn is-adran (1)—

(a)person sydd heb swyddogaethau o natur gyhoeddus;

(b)person nad yw ei brif swyddogaethau'n ymwneud â maes neu feysydd yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(c)tribiwnlys.

(5)Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys person o fewn is-adran (1) sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus ac o natur breifat, rhaid iddynt gynnwys y person hwnnw mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus yn unig.

Gwasanaethau i fynd i'r afael â thlodi plant

7Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau bod gofal plant ar gael yn ddi-dâl

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gofal plant o ddisgrifiad rhagnodedig ar gael yn ddi-dâl am y cyfryw gyfnodau ag a ragnodir ar gyfer pob plentyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn ei ardal—

(a)sydd wedi cyrraedd y cyfryw oedran ag a ragnodir, ond

(b)sydd o dan oedran ysgol gorfodol.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau a wneir o dan adran 10(1)(c).

(3)Yn yr adran hon ystyr “gofal plant” yw—

(a)gwarchod plant neu ofal dydd o fewn ystyr Rhan 2 y mae'n ofynnol i'r darparydd fod wedi'i gofrestru ar ei gyfer o dan y Rhan honno, neu

(b)gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad a gymeradwyir yn unol â chynllun a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (p. 21).

8Gwasanaethau cymorth i rieni: pwerau awdurdod lleol

(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth i rieni plant, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl am unrhyw beth a ddarperir o dan is-adran (1).

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 10, ystyr “gwasanaethau cymorth i rieni” yw unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)hyfforddiant mewn sgiliau rhianta;

(b)unrhyw wasanaeth arall i hybu neu hwyluso rhianta effeithiol.

9Gwasanaethau cymorth iechyd: pwerau awdurdod lleol

(1)Caiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau nyrsio, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu o dan is-adran (1) ar gyfer unrhyw ran o'i ardal heb gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y rhan honno o'i ardal.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl am unrhyw beth a ddarperir o dan is-adran (1).

(4)Yn yr adran hon ac yn adran 10, ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd” yw gwasanaethau sy'n darparu cymorth mewn perthynas â iechyd plant neu rieni plant (i'r graddau y maent yn angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant), ar wahân i gymorth sy'n golygu darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, offthalmig, neu fferyllol.

10Rheoliadau am wasanaethau i fynd i'r afael â thlodi plant

(1)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu gwasanaethau cymorth i rieni o ddisgrifiad rhagnodedig yn ddi-dâl i rieni rhagnodedig plant yn ei ardal;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu gwasanaethau cymorth iechyd o ddisgrifiad rhagnodedig yn ddi-dâl i blant rhagnodedig neu i rieni rhagnodedig plant yn ei ardal;

(c)darparu bod y ddyletswydd yn adran 7(1) i fod yn gymwys yn unig mewn rhan neu rannau o ardal awdurdod lleol;

(d)darparu bod gofyniad mewn rheoliadau o dan baragraff (a) neu (b) i fod yn gymwys yn unig mewn rhan neu rannau o ardal awdurdod lleol.

(2)Caiff rheoliadau o dan baragraff (c) neu (d) o is-adran (1) (ymysg pethau eraill)—

(a)pennu ardal neu ardaloedd o fewn ardal awdurdod lleol;

(b)darparu ar gyfer pennu ardal neu ardaloedd gan awdurdod lleol.

PENNOD 2CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

Cyfleoedd chwarae

11Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant

(1)Rhaid i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal yn unol â rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i'w hystyried wrth asesu digonolrwydd;

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae asesiad cyntaf i'w gyflawni;

(c)amlder asesiadau;

(d)adolygu asesiadau;

(e)cyhoeddi asesiadau.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i'w asesiad o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch cyfleoedd chwarae i blant yn ardal yr awdurdod, a

(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

(5)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymysg pethau eraill)—

(a)i anghenion plant sy'n bobl anabl (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50);

(b)i anghenion plant o wahanol oedrannau.

(6)Yn yr adran hon—

Cymryd rhan

12Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau ag y mae'n eu hystyried yn addas i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r awdurdod a allai effeithio arnynt.

(2)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch ei drefniadau o dan is-adran (1), a

(b)diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.

(3)Diddymir adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan yr is-adran hon.

PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU

Arolygu

13Arolygu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wnaed gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

14Pwerau mynediad

(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru, at ddibenion rheoliadau a wneir o dan adran 13, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn—

(a)i unrhyw fangre sydd ym mherchenogaeth neu o dan reolaeth awdurdod lleol;

(b)i unrhyw fangre sy'n dod o fewn is-adran (3).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn awdurdodi mynediad i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

(3)Y mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw mangreoedd—

(a)a ddefnyddir, neu yr arfaethir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaethau neu gyfleusterau a sicrhawyd gan awdurdod lleol;

(b)neu bod y person a awdurdodwyd o dan is-adran (1) yn rhesymol yn credu eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu yr arfaethir eu defnyddio felly.

(4)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1)—

(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

(5)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan is-adran (1) neu adran 15, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

15Pwerau arolygu

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion, cymryd copïau ohonynt neu eu symud oddi yno a hwythau'n ymwneud ag awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a'i symud o'r fangre;

(d)cyf-weld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gweithio yn y fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion neu sy'n atebol amdanynt yn y fangre i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu eu symud oddi yno.

(4)O ran arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd o dan adran 14(4)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig neu ddeunyddiau ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon —

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 14 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 14(4)(b)) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglŷn â materion sydd o dan reolaeth y person ag a fo'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 14 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14(1) neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

16Pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei rhoi

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) roi iddynt unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion personol) neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau gan awdurdod lleol o dan adrannau 7 i 12, a

(b)y mae Gweinidogion Cymru—

(i)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus eu cael at ddibenion unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15 eu cael at ddibenion y swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw beth a gafwyd o dan is-adran (1) gydag unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 14 i 15.

(3)Dyma'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)awdurdod lleol;

(b)unrhyw berson y mae'r awdurdod wedi ymrwymo mewn trefniadau gydag ef—

(i)wrth iddo arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adrannau 7 i 12, neu

(ii)ynglŷn ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig.

(4)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, ddogfennau neu gofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu mewn ffurf ddarllenadwy y gellir ei cymryd oddi yno.

(5)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i roi gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

(6)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Canllawiau a chyfarwyddiadau

17Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdod Cymreig arall o bryd i'w gilydd ynghylch—

(a)arfer swyddogaethau o dan adrannau 1 i 10, neu

(b)unrhyw gam i hybu'r nodau eang i gyfrannu at ddileu tlodi plant.

(2)Rhaid i awdurdod Cymreig roi sylw i'r canllawiau wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 11 a 12, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

18Cyfarwyddiadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.

(3)O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.