Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Y prif dermau

19Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person yn gofalu am blentyn neu blant o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr; ac mae “gwarchod plant” i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3)Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw'r person yn darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan wyth oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig; ac mae “gofal dydd i blant” a “gofal dydd” i'w dehongli yn unol â hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)diwygio is-adran (2) neu (3) i amnewid oedran gwahanol;

(b)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn gweithredu fel gofalydd plant at ddibenion y Rhan hon;

(c)darparu, o dan yr amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn, nad yw person yn darparu gofal dydd at ddibenion y Rhan hon.

(5)Caiff yr amgylchiadau a bennir mewn gorchymyn ymwneud ag un neu fwy o'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(b)y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer;

(c)natur y gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(d)y fangre y darperir ef ynddi;

(e)yr adegau pan ddarperir ef;

(f)y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.

(6)Yn yr adran hon ystyr “mangre ddomestig” yw unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat.

Cofrestru gwarchod plant

20Cofrestr o warchodwyr plant

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr o warchodwyr plant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru'n warchodwr plant o dan y Rhan hon.

21Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru

(1)Rhaid i berson beidio â gweithredu'n warchodwr plant yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru'n warchodwr plant gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod person yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb iddo gael ei gofrestru i wneud hynny o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gorfodi”) i'r person hwnnw.

(3)Ceir cyflwyno hysbysiad gorfodi i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person, neu

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(4)Mae hysbysiad gorfodi yn effeithiol am gyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad pan gyflwynir ef.

(5)Mae person (“P”) sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn groes i is-adran (1) yn cyflawni tramgwydd —

(a)os oes hysbysiad gorfodi yn effeithiol mewn perthynas â P, a

(b)os yw P yn gweithredu fel gwarchodwr plant heb esgus rhesymol.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y is-adran (5) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cofrestru gofal dydd i blant

22Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blant

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr gofal dydd i blant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant o dan y Rhan hon ac o'r mangreoedd y maent wedi eu hawdurdodi i'w ddarparu ynddynt o dan y Rhan hon.

23Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru

(1)Rhaid i berson beidio â darparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant yn y fangre honno gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd.

(3)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Y broses gofrestru a gofynion cofrestru

24Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant

(1)Caiff person sy'n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel gwarchodwr plant.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gwasanaeth gwarchod plant ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gwarchod plant yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson a all fod yn y fangre honno.

26Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant

(1)Caiff person sy'n bwriadu darparu gofal dydd i blant mewn mangre benodol wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel darparydd gofal dydd yn y fangre honno.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig i gofrestru darparwyr gofal dydd wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

27Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blant

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel darparwyr gofal dydd i blant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gofal dydd ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gofal dydd yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson arall a all fod yn y fangre honno.

28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau

(1)Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(2)Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(3)Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.

(4)Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.

29Amodau wrth gofrestru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod y cyfryw amodau ag y gwelant yn dda eu gwneud wrth gofrestru unrhyw berson o dan y Rhan hon sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu berson sy'n darparu gofal dydd i blant.

(2)Caniateir i'r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg pan fydd Gweinidogion Cymru yn cofrestru person o dan adran 24 neu adran 26 neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd o dan yr adran hon.

(4)Mae person sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon yn cyflawni tramgwydd os bydd y person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a osodir o dan yr adran hon.

(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (4) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)lles a datblygiad y plant o dan sylw;

(b)addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;

(c)cymwysterau a hyfforddiant;

(d)mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;

(e)cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;

(f)y gweithdrefnau i drafod cwynion;

(g)goruchwylio staff;

(h)cadw cofnodion;

(i)darparu gwybodaeth.

(3)Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—

(a)gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a

(b)bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Diddymu ac atal cofrestriad

31Diddymu cofrestriad

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod y person bellach wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon os yw'n ymddangos iddynt bod unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol yn gymwys—

(a)bod y gofynion i gofrestru sy'n gymwys o ran cofrestriad y person o dan adran 25 neu 27 wedi peidio â chael eu bodloni neu y byddant yn peidio â chael eu bodloni;

(b)bod y person wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gofrestriad y person hwnnw o dan y Rhan hon;

(c)bod y person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan reoliadau o dan y Rhan hon;

(d)bod y person wedi methu â thalu'r ffi a ragnodwyd.

(3)Os gosodwyd gofyniad i wneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i unrhyw wasanaethau, cyfarpar neu fangre ar berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ni cheir diddymu cofrestriad y person hwnnw ar sail unrhyw ddiffyg neu annigonolrwydd yn y gwasanaethau, cyfarpar neu fangre—

(a)os nad yw'r amser a osodwyd i gydymffurfio â'r gofynion wedi dod i ben, a

(b)os dangosir bod y diffyg neu'r annigonolrwydd oherwydd na wnaed y newidiadau neu'r ychwanegiadau.

(4)Rhaid i ddiddymiad o dan yr adran hon fod yn ysgrifenedig.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi amgylchiadau eraill pan geir diddymu cofrestriad person cofrestredig o dan y Rhan hon.

32Atal cofrestriad

(1)Caiff rheoliadau ddarparu bod cofrestriad unrhyw berson o dan y Rhan hon yn cael ei atal.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)cyfnod yr ataliad;

(b)yr amgylchiadau y ceir atal cofrestriad ynddynt;

(c)atal cofrestriad ar gais y person cofrestredig.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn rhoi i'r person cofrestredig hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag ataliad ar gais y person cofrestredig.

(5)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i warchod plant gan Weinidogion Cymru beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru ar adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(6)Rhaid i berson a gofrestrwyd o dan y Rhan hon i ddarparu gofal dydd yn unrhyw fangre gan Weinidogion Cymru beidio â darparu gofal dydd yn y fangre honno ar unrhyw adeg pan fydd y cofrestriad hwnnw wedi'i atal.

(7)Os yw person yn mynd yn groes i is-adran (5) neu (6) heb esgus rhesymol, mae'r person hwnnw'n euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

33Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol

(1)Caiff person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon hysbysu Gweinidogion Cymru i dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(2)Os bydd person yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn dal i fwriadu cymryd y cam hwnnw.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person hwnnw, a

(b)os nad yw'r amser y gellir dwyn apêl o dan adran 37 wedi dod i ben neu, os gwnaed y cyfryw apêl, na chafodd ei phenderfynu.

Amddiffyn mewn argyfwng

34Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad

(1)O ran person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn yn diddymu cofrestriad y person.

(2)Os yw'n ymddangos i'r ynad bod plentyn y mae'r person hwnnw yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, neu y gallai'r person hwnnw fod yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, a bod y plentyn yn dioddef niwed arwyddocaol, neu'n debygol o wneud hynny, caniateir i'r ynad wneud y gorchymyn.

(3)Caniateir i gais o dan is-adran (1) gael ei wneud heb hysbysiad.

(4)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

(b)bydd yn effeithiol o'r amser y gwneir ef.

(5)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gorchymyn—

(a)copi o'r gorchymyn,

(b)copi o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn cefnogi'r cais am y gorchymyn, ac

(c)hysbysiad o unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 37(2).

(6)Caniateir cyflwyno'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (5) i'r person cofrestredig—

(a)drwy eu traddodi i'r person, neu

(b)drwy eu hanfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(7)Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gwneud y gorchymyn, hysbysu'r awdurdod lleol y mae neu yr oedd y person yn gweithredu neu wedi gweithredu yn ei ardal fel gwarchodwr plant, neu'n darparu neu wedi darparu gofal dydd ynddi, bod y gorchymyn wedi'i wneud.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 35, mae i “niwed” yr ystyr sydd i “harm” yn Neddf Plant 1989 (p. 41) ac mae'r cwestiwn a yw niwed yn arwyddocaol yn un sydd i'w benderfynu yn unol ag adran 31(10) o'r Ddeddf honno.

35Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)os yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon, a

(b)os oes gan Weinidogion Cymru achos rhesymol i gredu oni fyddant yn gweithredu o dan yr adran hon y bydd plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed arwyddocaol.

(2)Os yw'r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i'r person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ddarparu bod unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru a grybwyllir yn is-adran (3) i gael effaith o'r amser pan roddir yr hysbysiad.

(3)Y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw penderfyniadau o dan adran 29 i amrywio neu dynnu i ffwrdd amod sydd ar y pryd mewn grym o ran y cofrestriad neu i osod amod ychwanegol.

(4)Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person, neu

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(5)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)datgan ei fod yn cael ei roi o dan yr adran hon,

(b)datgan rhesymau Gweinidogion Cymru dros gredu bod yr amgylchiadau'n dod o fewn is-adran (1)(b),

(c)pennu'r amod a gafodd ei amrywio, ei dynnu i ffwrdd neu ei osod, ac esbonio'r hawl i apelio a roddir gan adran 37.

Diogelwch gweithdrefnol

36Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru'n bwriadu cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd ar gofrestriad person;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person;

(d)gwrthod caniatáu cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad person.

(2)Nid yw'r adran hon yn gymwys i gam a gymerir o dan adran 34 neu 35.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig hysbysiad o'u bwriad i gymryd y cam o dan sylw.

(4)Rhaid i'r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau Gweinidogion Cymru dros y bwriad i gymryd y cam, a

(b)hysbysu'r person o dan sylw o hawliau'r person hwnnw o dan yr adran hon.

(5)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd y cam tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r diwrnod y maent yn rhoi'r hysbysiad o dan is-adran (3) oni fydd y ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) y person cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd.

(6)Os bydd derbynnydd hysbysiad o dan is-adran (3) (“y derbynnydd”) yn hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i'r derbynnydd wrthwynebu cyn iddynt gymryd y cam.

(7)Caniateir i wrthwynebiad o dan is-adran (5) gael ei wneud ar lafar neu'n ysgrifenedig ac yn y naill achos neu'r llall caniateir iddo gael ei wneud gan y derbynnydd neu gan gynrychiolydd y derbynnydd.

(8)Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd y cam, rhaid iddynt hysbysu'r derbynnydd o'u penderfyniad (p'un a wnaeth y derbynnydd hysbysu Gweinidogion Cymru fod y derbynnydd yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd ai peidio).

(9)Nid yw cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b), (c) neu (e) o is-adran (1) yn cael effaith—

(a)nes bod y cyfnod y ceir apelio ynddo o dan adran 37 wedi dod i ben, neu

(b)os cyflwynir y cyfryw apêl, hyd at yr amser pan benderfynir yr apêl (a phan gadarnheir bod caniatâd i gymryd y cam).

(10)Nid yw is-adran (9) yn rhwystro'r cyfryw gam rhag cael effaith cyn i'r cyfnod y caniateir apelio ynddo ddod i ben os yw'r person o dan sylw yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw'r person yn bwriadu apelio.

(11)Os yw Gweinidogion Cymru'n hysbysu ceisydd i gofrestru o dan y Rhan hon eu bod yn bwriadu gwrthod y cais, ni chaniateir tynnu'r cais yn ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 37, ystyr “amod newydd” yw amod a osodir ar adeg heblaw adeg cofrestriad y person.

37Apelau

(1)Caiff ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon—

(a)gwrthod cais i gofrestru;

(b)gosod amod newydd wrth gofrestru;

(c)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd wrth gofrestru;

(d)gwrthod cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath;

(e)diddymu cofrestriad.

(2)Caiff y personau canlynol hefyd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)ceisydd i gofrestru neu (yn ôl y digwydd) berson cofrestredig ynglŷn â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon o ddisgrifiad a ragnodwyd;

(b)person cofrestredig y gwnaed gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34;

(c)person cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35.

(3)Pan fo apêl, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)naill ai gadarnhau bod y cam yn cael ei gymryd, bod y penderfyniad arall yn cael ei wneud, bod y gorchymyn yn cael ei wneud, neu bod yr hysbysiad yn cael ei roi (yn ôl y digwydd), neu

(b)cyfarwyddo nad yw'n cael effaith neu ei fod yn peidio â chael effaith.

(4)Oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi cadarnhau bod cymryd cam a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (e) neu wneud gorchymyn o dan adran 34 yn diddymu cofrestriad person, caiff y Tribiwnlys hefyd wneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu wneud y ddau ohonynt—

(a)gosod amodau ar gofrestriad y person o dan sylw;

(b)amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd cyn hynny ar gofrestriad y person.

Anghymwyso rhag cofrestru

38Anghymwyso rhag cofrestru

(1)Yn yr adran hon ystyr “cofrestru” yw cofrestru o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu fod person i'w anghymwyso rhag cofrestru.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu bod person i'w anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 (p. 47));

(b)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ynglŷn â'r person;

(c)os gwnaed gorchymyn o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn a fu dan ofal y person;

(d)os gosodwyd gofyniad o fath a ragnodwyd ar unrhyw adeg ynglŷn â phlentyn o'r fath, o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

(e)os gwrthodwyd cofrestru'r person ar unrhyw adeg o dan y Rhan hon o'r Mesur hwn, Rhan 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21) neu o dan Ran 10 neu Ran 10A o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd, neu os diddymwyd unrhyw gofrestriad o'r fath ar ei gyfer;

(f)os cafodd y person ei gollfarnu o dramgwydd o fath a ragnodwyd neu os cafodd ryddhad diamod neu ryddhad amodol am y cyfryw dramgwydd;

(g)os cafodd y person rybudd ynglŷn â thramgwydd o fath a ragnodwyd;

(h)os cafodd y person ar unrhyw adeg ei anghymwyso rhag maethu plentyn yn breifat (o fewn ystyr Deddf Plant 1989 (p. 41));

(i)os gosodwyd gwaharddiad ar y person ar unrhyw adeg o dan adran 69 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41), adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (yr Alban) 1984 (p. 56) neu unrhyw ddeddfiad a ragnodwyd;

(j)os cafodd hawliau a phwerau person ynglŷn â phlentyn ar unrhyw adeg eu breinio mewn awdurdod a ragnodwyd o dan ddeddfiad a ragnodwyd.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu i berson gael ei anghymwyso rhag cofrestru—

(a)os yw'r person yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(b)os yw person yn byw ar aelwyd y mae person arall sydd wedi'i anghymwyso yn cael ei gyflogi yno.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) neu (4) ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru (ac yn benodol cânt ddarparu nad yw person i'w anghymwyso rhag cofrestru at ddibenion adran 39) o achos unrhyw ffaith a fyddai fel arall yn peri bod y person yn cael ei anghymwyso—

(a)os yw'r person wedi datgelu'r ffaith i Weinidogion Cymru, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi cydsynio'n ysgrifenedig nad yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru ac nad ydynt wedi tynnu eu cydsyniad yn ôl.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae “rhybudd” yn cynnwys cerydd neu rybudd yn yr ystyr sydd i “caution” yn adran 65 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37);

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw ddeddfiad sy'n cael effaith ar unrhyw adeg yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

(7)Mae collfarn y gwnaed gorchymyn prawf ynglŷn â hi cyn 1 Hydref 1992 (na fyddai fel arall yn cael ei thrin fel collfarn) i'w thrin fel collfarn at ddibenion yr adran hon.

39Canlyniadau anghymwyso

(1)Rhaid i berson sydd wedi ei anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38 beidio â gwneud y canlynol—

(a)gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru,

(b)darparu gofal dydd yng Nghymru neu ymwneud yn uniongyrchol â rheolaeth unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru.

(2)Rhaid i berson beidio â chyflogi, mewn cysylltiad â darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yng Nghymru, berson sydd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru o dan y Rhan hon gan reoliadau o dan adran 38.

(3)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd.

(4)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3)—

(a)os yw'r person wedi'i anghymwyso rhag cofrestru yn unig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 38(4), a

(b)os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, ei fod yn byw—

(i)ar yr un aelwyd â pherson a oedd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru, neu

(ii)ar aelwyd yr oedd y cyfryw berson yn cael ei gyflogi yno.

(5)Nid yw person sy'n mynd yn groes i is-adran (2) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (3) os yw'r person yn profi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu, bod y person a gyflogwyd wedi'i anghymwyso rhag cofrestru.

(6)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (3) yn atebol ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na 51 o wythnosau, neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

(7)O ran tramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) (newid mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod), mae'r cyfeiriad at 51 o wythnosau yn is-adran (7) i'w ddarllen fel cyfeiriad at 6 mis.

Arolygu

40Arolygu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;

(b)ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

(4)Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.

41Pwerau mynediad

(1)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar unrhyw adeg.

(2)Caiff unrhyw berson a awdurdodwyd at ddibenion yr is-adran hon gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru os oes gan y person achos rhesymol dros gredu bod plentyn yn derbyn gofal yn unrhyw fangre yn groes i'r Rhan hon.

(3)Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)ar gyfer achlysur neu gyfnod penodol;

(b)yn ddarostyngedig i amodau.

(4)Rhaid i berson sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon neu adran 42, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod y person hwnnw i wneud hynny.

42Pwerau arolygu

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu, a chymryd copïau o'r canlynol—

(i)unrhyw gofnodion a gedwir gan y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd, a

(ii)unrhyw ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch darparu'r gwasanaeth;

(c)ymafael yn unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall neu beth arall a geir yno a'u symud oddi yno y mae gan y person a awdurdodwyd sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad a osodwyd gan neu o dan y Rhan hon;

(d)cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

(e)arolygu unrhyw blant sy'n derbyn gofal yno, a'r trefniadau a wnaed er eu lles;

(f)cyfweld yn breifat â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(g)cyfweld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gofalu am blant, neu'n byw neu'n gweithio, yn y fangre sy'n cydsynio i gael ei gyfweld.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre neu sy'n atebol amdanynt i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer ym mharagraffau (b) ac (c) yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu i ymafael ynddynt a'u symud oddi yno.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b)) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn rhoi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglyn â materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 41 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person sy'n arfer unrhyw bŵer o dan adran 41 neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

43Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediad

(1)Caiff person a awdurdodwyd i arfer pŵer mynediad o dan adran 41 wneud cais i lys am warant o dan yr adran hon.

(2)Os yw'n ymddangos i'r llys bod y person awdurdodedig—

(a)wedi ceisio arfer pŵer a roddwyd i'r person hwnnw o dan adran 41 neu 42 ond ei fod wedi cael ei rwystro rhag gwneud hynny, neu

(b)yn debygol o gael ei rwystro rhag arfer unrhyw bŵer o'r fath,

caiff y llys ddyroddi gwarant sy'n awdurdodi unrhyw gwnstabl i gynorthwyo'r person awdurdodedig i arfer y pŵer, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(3)Rhaid i warant a ddyroddwyd o dan yr adran hon gael ei chyfeirio at gwnstabl a chael ei gweithredu ganddo.

(4)Mae Atodlen 11 i Ddeddf Plant 1989 (p 41) (awdurdodaeth y llysoedd) yn gymwys o ran achosion cyfreithiol o dan yr adran hon fel pe baent yn achosion cyfreithiol o dan y Ddeddf honno.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “llys” yw'r Uchel Lys, llys sirol neu lys ynadon; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a ellid ei gwneud (yn rhinwedd is-adran (4)) gan neu o dan Atodlen 11 i Ddeddf Plant 1989.

Gwybodaeth

44Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon roi iddynt unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r person fel gwarchodwr plant neu wrth ddarparu gofal dydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei chael at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

45Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol, os ydynt yn cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)caniatáu cais cofrestru i berson;

(b)rhoi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(c)diddymu cofrestriad person;

(d)atal cofrestriad person;

(e)tynnu person oddi ar y gofrestr ar gais y person hwnnw.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol os gwneir gorchymyn o dan adran 34(2).

(3)Yr wybodaeth y gellir ei rhagnodi at ddibenion yr adran hon yw gwybodaeth a fyddai'n cynorthwyo'r awdurdod lleol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant ynddi (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd y mae'r person (neu yr oedd y person) wedi ei gofrestru ynglŷn ag ef.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth i berson sy'n arfer swyddogaethau statudol (at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r swyddogaethau hynny) ynghylch a yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon ai peidio.

Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedig

46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol

(1)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, mewn cais i gofrestru o dan y Rhan hon, yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(2)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

47Hysbysiadau o gosb

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod person wedi cyflawni tramgwydd cosb benodedig, cânt roi i'r person hysbysiad o gosb o ran y tramgwydd.

(2)Tramgwydd cosb benodedig yw unrhyw dramgwydd perthnasol a ragnodwyd at ddibenion yr adran hon.

(3)Tramgwydd perthnasol yw tramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir o dan y Rhan hon.

(4)Hysbysiad o gosb yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i'r person fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb yn unol â'r hysbysiad.

(5)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni cheir codi achos am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag a ragnodir.

(6)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni ellir collfarnu'r person o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef os yw'r person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad.

(7)Mae cosbau o dan yr adran hon yn daladwy i Weinidogion Cymru.

48Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth am unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)ffurf a chynnwys yr hysbysiadau o gosb;

(b)swm ariannol y gosb ac erbyn pa bryd y mae i'w thalu;

(c)penderfynu'r dulliau y gellir talu cosbau drwyddynt;

(d)y cofnodion sydd i'w cadw o ran hysbysiadau o gosb;

(e)tynnu hysbysiad o gosb yn ôl, mewn amgylchiadau a ragnodwyd, gan gynnwys—

(i)ad-dalu unrhyw swm a dalwyd am gosb o dan hysbysiad o gosb a dynnir yn ôl, a

(ii)gwahardd codi achos cyfreithiol neu barhau ag ef am y tramgwydd y mae'r hysbysiad a dynnir yn ôl yn ymwneud ag ef;

(f)tystysgrifau sydd i'w derbyn yn dystiolaeth—

(i)sy'n honni eu bod wedi'u llofnodi gan neu ar ran person a ragnodwyd, a

(ii)sy'n datgan bod taliad o unrhyw swm a dalwyd am gosb wedi dod i law neu, yn ôl y digwydd, heb ddod i law ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif neu cyn y dyddiad hwnnw;

(g)camau sydd i'w cymryd os na thelir cosb yn unol â hysbysiad o gosb;

(h)unrhyw beth arall o ran cosbau neu hysbysiadau o gosb y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

(2)O ran rheoliadau o dan is-adran (1)(b)—

(a)cânt ddarparu ar gyfer cosbau o symiau gwahanol i fod yn daladwy mewn achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y gosb sy'n daladwy o dan hysbysiad o gosb i wahaniaethu yn unol â'r amser erbyn pryd y telir hi, ond

(b)rhaid iddynt sicrhau nad yw swm unrhyw gosb sy'n daladwy o ran unrhyw dramgwydd yn fwy nag un hanner mwyafswm y ddirwy y byddai person sy'n cyflawni tramgwydd yn atebol amdani ar gollfarn ddiannod.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cosb” yw cosb o dan hysbysiad o gosb;

  • mae i “hysbysiad o gosb” yr ystyr a roddir gan adran 47.

49Terfyn amser ar gyfer achosion

(1)Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir oddi tani o fewn cyfnod o flwyddyn o'r dyddiad pan ddaw'r erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol ym marn yr erlynydd i warantu'r achos.

(2)Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd rheoliad (1) fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

50Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os cyflawnir unrhyw dramgwydd o dan y Rhan hon gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath, bydd y person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

51Cymdeithasau anghorfforedig

(1)Rhaid i achos am dramgwydd o dan y Rhan hon yr honnir iddo cael ei gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw'r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu unrhyw rai o'i haelodau).

(2)At ddibenion unrhyw achosion o'r fath, mae rheolau'r llys ynghylch cyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r gymdeithas yn gorff corfforaethol.

(3)Mewn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon sy'n cael ei ddwyn yn erbyn cymdeithas anghorfforedig, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys fel y maent mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(4)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig pan gollfernir hi o dramgwydd o dan y Rhan hon i'w thalu allan o gronfeydd y gymdeithas.

(5)Os dangosir bod tramgwydd o dan y Rhan hon gan gymdeithas anghorfforedig—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y cyfryw swyddog neu aelod,

mae'r swyddog neu'r aelod hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Amrywiol

52Swyddogaethau awdurdodau lleol

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau darparu—

(a)gwybodaeth neu gyngor ynghylch gwarchod plant a gofal dydd i blant;

(b)hyfforddiant ynghylch darparu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd i blant.

53Ffioedd

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i bersonau a gofrestrwyd o dan y Rhan hon dalu i Weinidogion Cymru ar adegau a ragnodwyd neu erbyn yr adegau hynny y symiau a ragnodwyd o ran bod Gweinidogion Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi amgylchiadau—

(a)pan ellir amrywio swm y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau yn unol â'r rheoliadau;

(b)pan ellir hepgor y ffi sy'n daladwy o dan y rheoliadau.

54Cydweithredu rhwng awdurdodau

(1)Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai unrhyw awdurdod lleol, drwy gymryd unrhyw gam penodol, gynorthwyo wrth iddynt arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan y Rhan hon, cânt ofyn am gymorth yr awdurdod, gan nodi'r cam o dan sylw.

(2)Rhaid i awdurdod y gofynnir iddo am ei gymorth gydymffurfio â'r cais os yw'n cydweddu â'i ddyletswyddau statudol ef ei hun a'i ddyletswyddau eraill ac nad yw'n rhagfarnu'n ormodol unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau rhag cael eu cyflawni.

55Hysbysiadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran hysbysiadau sy'n ofynnol neu a awdurdodwyd eu rhoi i unrhyw berson gan unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)adran 33;

(b)adran 36.

(2)Gellir rhoi'r hysbysiad i'r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi i'r person,

(b)drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person, neu

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo'n electronig.

(3)Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig, mae i'w drin fel un wedi ei roi ond yn unig os bodlonir gofynion is-adran (4) neu (5).

(4)Os y person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny yw Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid bod y person y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd rhoi'r hysbysiad iddo wedi rhoi ar ddeall i Weinidogion Cymru bod y person hwnnw'n barod i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy gyfrwng electronig a'i fod wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw, a

(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(5)Os nad Gweinidogion Cymru yw'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r hysbysiad neu a awdurdodwyd i wneud hynny, rhaid i'r hysbysiad gael ei drosglwyddo yn y cyfryw fodd ag y caiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ofynnol.

(6)Ceir dangos parodrwydd i dderbyn hysbysiadau a drosglwyddir drwy fodd electronig, a roddir at ddibenion is-adran (4), drwy ddull cyffredinol at ddibenion hysbysiadau y mae'n ofynnol eu rhoi neu yr awdurdodwyd eu rhoi gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon neu ceir cyfyngu hynny i hysbysiadau o ddisgrifiad penodol.

(7)O ran cymryd cam a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c) o adran 36(1) ceir rhoi hysbysiad yr awdurdodwyd ei roi gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (5) neu (7) o'r adran honno ar lafar i berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i dderbyn y cyfryw hysbysiad (yn ogystal â thrwy unrhyw un neu unrhyw rai o'r dulliau a grybwyllir yn is-adran (2)).

56Marwolaeth person cofrestredig

(1)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod darpariaethau'r Rhan hon i fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig mewn achosion lle y mae person, sef yr unig berson a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â busnes gofal dydd, wedi marw;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynrychiolwyr personol person a fu farw a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'r farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) yn benodol—

(a)darparu bod y busnes gofal dydd yn cael ei gyflawni am gyfnod rhagnodedig gan berson na chafodd ei gofrestru ar ei gyfer; a

(b)cynnwys darpariaeth y gellir estyn y cyfnod rhagnodedig gan y cyfryw gyfnod pellach ag a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources