Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Timau

57Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu ar gyfer ei ardal un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd.

(2)Caiff dau awdurdod lleol (neu fwy) sy'n gweithredu gyda'i gilydd sefydlu tîm neu dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd); ac os byddant yn gwneud hynny—

(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon (ac eithrio adran 59(1)(b)) at awdurdod lleol neu at ei ardal i'w ddehongli'n unol â hynny, a

(b)mae'r cyfeiriad yn adran 59(1)(b) i'w ddehongli fel cyfeiriad at bob un o'r awdurdodau.

(3)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)cymryd rhan yn sefydlu un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd ar gyfer ei ardal o dan is-adran (1) neu (2), a

(b)cynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon (os oes unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol).

58Swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd

(1)Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni'r swyddogaethau cymorth i deuluoedd a bennir ar ei gyfer gan yr awdurdod lleol gyda chydsyniad pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm.

(2)Swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol rhagnodedig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42)), neu

(b)swyddogaethau rhagnodedig—

(i)Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(ii)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).

(3)At ddibenion y Rhan hon, mae Bwrdd Iechyd Lleol yn ymwneud â thîm integredig cymorth i deuluoedd os yw unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn dod o fewn yr ardal y mae'r tîm yn ei chwmpasu.

(4)Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan adran 61.

(5)Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni ynglŷn â theulu yr atgyfeirir ef iddo gan yr awdurdod lleol.

(6)Caiff awdurdod lleol atgyfeirio teulu i dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu'n amau bod rhiant i blentyn yn y teulu hwnnw (neu darpar riant)—

(a)yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,

(b)yn ddioddefwr trais domestig neu gamdriniaeth,

(c)a chanddo hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin, neu

(d)a chanddo anhwylder meddwl.

(7)At ddibenion is-adran (5), mae “teulu” yn cynnwys pob un o'r canlynol—

(a)plentyn mewn angen (neu blentyn sy'n derbyn gofal), rhieni'r plentyn ac, os yw'r awdurdod o'r farn ei fod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r plentyn neu'r rhieni;

(b)unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn o dan amgylchiadau pan fo is-adran (8) yn gymwys ac, os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol unrhyw unigolyn arall sy'n gysylltiedig â'r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i'r plentyn hwnnw.

(8)Mae'r is-adran hon yn gymwys os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod y plentyn yn debygol o fod yn blentyn mewn angen os bydd yr unigolyn yn dod yn rhiant i'r plentyn hwnnw.

(9)Rhai i dîm integredig cymorth i deuluoedd werthuso a chofnodi effeithiolrwydd ei waith gyda'r teuluoedd yr atgyfeirir hwy iddo.

(10)Caiff rheoliadau—

(a)dosbarthu swyddogaethau cymorth i deuluoedd i dîm integredig cymorth i deuluoedd;

(b)caniatáu i awdurdodau lleol wneud atgyfeiriadau i'r tîm integredig cymorth i deuluoedd mewn amgylchiadau nas crybwyllir yn yr adran hon.

(11)Nid yw dosbarthu swyddogaethau o dan yr adran hon yn effeithio ar y canlynol—

(a)atebolrwydd Bwrdd Iechyd Lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau,

(b)atebolrwydd awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'i swyddogaethau, neu

(c)unrhyw bŵer neu ddyletswydd i adennill ffioedd ynghylch gwasanaethau a roddwyd wrth arfer unrhyw swyddogaethau llywodraeth leol.

(12)Mae swyddogaeth a bennir o dan yr adran hon yn arferadwy yn gydredol gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a'r corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.

(13)Yn yr adran hon—

  • ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;

  • mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad yn ogystal ag ymddygiad afresymol sy'n debygol o beri niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “gam-drin domestig” os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr; ac mae “camdriniaeth” a “camdriniol” i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “plentyn mewn angen” (“child in need”) yw plentyn mewn angen at ddibenion Rhan 3 o Deddf Plant 1989 (p. 41);

  • ystyr “plentyn sy'n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 22(1) i Ddeddf Plant 1989 (p. 41));

  • mae “rhiant” (“parent”), o ran plentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

    (a)

    nad yw'n rhiant i'r plentyn ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

    (b)

    sydd â gofal y plentyn;

  • ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy'n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisiol” i'w ddehongli'n unol â hynny; mae trais yn drais domestig os daw oddi wrth unigolyn sy'n gysylltiedig â'r dioddefwr.

(14)At ddibenion y diffiniad o “rhiant” yn is-adran (13)—

(a)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41);

(b)wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o'r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb arall dros dro i'w ddiystyru.

59Adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd

(1)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at wariant a dynnir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig ag ef—

(a)drwy wneud taliadau uniongyrchol, neu

(b)drwy gyfrannu i gronfa, a sefydlwyd ac a gynhelir gan yr awdurdod lleol, y ceir gwneud y taliadau ohoni.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer cyllido timau integredig cymorth i deuluoedd ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch gwariant—

(a)ar gyfer swyddi neu gategorïau o swydd mewn timau integredig cymorth i deuluoedd;

(b)ar gyfer gwasanaethau penodol cymorth i deuluoedd neu wasanaethau o'r fath yn gyffredinol;

(c)ar gyfer gweinyddu timau integredig cymorth i deuluoedd;

(d)at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â thimau integredig cymorth i deuluoedd.

(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill i dîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol neu mewn cysylltiad ag ef.

60Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod tîm integredig cymorth i deuluoedd yn cynnwys personau rhagnodedig.

(2)Caiff awdurdod lleol gynnwys y cyfryw bersonau eraill mewn tîm integredig cymorth i deuluoedd ag y mae o'r farn eu bod yn briodol gyda chydsyniad pob Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'r tîm.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources