RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

I170Canllawiau

1

Mae'r adran hon yn cael effaith o ran unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gyrff y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt roi canllawiau i gyrff yn gyffredinol neu i un corff penodol neu i gyrff penodol;

b

cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol neu mewn perthynas â hwy;

c

rhaid iddynt, cyn iddynt ddyroddi canllawiau, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau;

d

rhaid iddynt gyhoeddi'r canllawiau.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 70 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I271Dehongli'n Gyffredinol

Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “awdurdod Cymreig” (“Welsh authority”) yw person a bennir yn adran 6(1);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • mae “gofal dydd i blant” (“day care for children”) (a “gofal dydd” (“day care”)) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “gwarchod plant” (“child minding”) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I3I872Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 by virtue of s. 75(2)

I8

A. 72 mewn grym ar 10.2.2010 gan virtue of a. 75(2), gweler Measure

I473Diddymiadau

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diddymiadau.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 73 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I574Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu wahanol ddosbarthau o achos neu wahanol ardaloedd neu wahanol ddibenion;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau o achos yn unig;

c

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

3

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Nid yw is-adran (3) yn gymwys i orchmynion y mae is-adran (5) yn gymwys iddynt.

5

Ni cheir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 2(5) neu orchymyn o dan adran 1(8), 6(2) neu 19(4) oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 74 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

I675Cychwyn

1

Mae'r darpariaethau canlynol yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

  • adran 1;

  • adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru);

  • adran 3;

  • adran 74;

  • yr adran hon;

  • adran 76.

2

Daw paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

3

Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 75 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

I776Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.