xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedig

47Hysbysiadau o gosb

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod person wedi cyflawni tramgwydd cosb benodedig, cânt roi i'r person hysbysiad o gosb o ran y tramgwydd.

(2)Tramgwydd cosb benodedig yw unrhyw dramgwydd perthnasol a ragnodwyd at ddibenion yr adran hon.

(3)Tramgwydd perthnasol yw tramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir o dan y Rhan hon.

(4)Hysbysiad o gosb yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i'r person fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb yn unol â'r hysbysiad.

(5)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni cheir codi achos am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag a ragnodir.

(6)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni ellir collfarnu'r person o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef os yw'r person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad.

(7)Mae cosbau o dan yr adran hon yn daladwy i Weinidogion Cymru.