Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

5Strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraillLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn yr adran hon nid yw cyfeiriad at “awdurdod Cymreig” yn cynnwys—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys i strategaeth awdurdod Cymreig o dan adran 2.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)y cyfnod y mae'r strategaeth i ymwneud ag ef;

(b)pryd a sut y mae'n rhaid cyhoeddi strategaeth;

(c)cadw golwg gyson ar strategaeth;

(d)ymgynghori cyn cyhoeddi strategaeth.

F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Bydd dyletswydd awdurdod Cymreig o dan adran 2(1) i gyhoeddi strategaeth wedi ei chyflawni os yw'r strategaeth yn rhan annatod o [F2gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F3, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 5 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(c)