Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010

4Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol wahodd person i ofyn am asesiad o'i fodd o dan adran 5(1)—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, pan fydd yr awdurdod yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano i'r person;

(b)os na fu'n rhesymol ymarferol i roi gwahoddiad fel y'i crybwyllwyd ym mharagraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cynnig gael ei wneud;

(c)os na roddwyd gwahoddiad o dan baragraff (a) neu (b) cyn darparu bod gwasanaeth yn dechrau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny; neu

(d)o ran person y darperir iddo wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, yn yr achosion y caniateir eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Pan fo'n ofynnol i roi gwahoddiad i berson o dan is-adran (1), rhaid i'r awdurdod lleol beidio â—

(a)gosod, na

(b)mewn achos pan fo rheoliadau o dan is-adran (1)(d) yn gosod dyletswydd mewn achos pan fo ffi eisoes wedi ei gosod, newid,

ffi am y gwasanaeth dan sylw o dan adran 1(1) oni bai bod y gofynion a osodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(3)Dyma'r gofynion—

(a)bod y gwahoddiad wedi ei roi; a

(b)pan fo'r person yn ymateb i'r gwahoddiad yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac erbyn yr amser a bennwyd yn y rheoliadau hynny, bod yr awdurdod wedi cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan adrannau 5 a 7.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

(a)ar gyfer ffurf a chynnwys gwahoddiadau o dan is-adran (1); a

(b)ar gyfer y dull o roi'r gwahoddiadau hynny.