13Cyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos
1
Caniateir i achos am dramgwydd o dan y Mesur hwn gael ei ddwyn ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o 6 mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos yn hysbys iddo.
2
Ond ni chaniateir cychwyn achos fwy na 2 flynedd ar ôl dyddiad cyflawni'r tramgwydd.