RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL
Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
I1I52Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
1
Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun–
a
sy'n dynodi'r driniaeth sydd i fod ar gael ar gyfer yr ardal honno at ddibenion y Rhan hon (“triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol”); a
b
i sicrhau darpariaeth ar gyfer yr ardal honno o wasanaethau, gan gynnwys triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol, a ddisgrifir yn adran 5 (“gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”).
2
Os cytunir ar gynllun, rhaid i'r partneriaid sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig.
3
Rhaid i gynllun ddynodi i ba raddau y mae pob un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.
4
Caiff cynllun ddarparu–
a
bod un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol;
b
bod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl unigolion a ddisgrifir yn adran 8(1) neu â disgrifiadau neilltuol ohonynt;
c
mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i'w cynnal mewn cysylltiad â chategorïau neilltuol o unigolyn na fyddai ganddynt fel arall hawl i asesiad.
5
Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth o dan is-adran (4)(b), rhaid iddo hefyd ddarparu i staff o ddisgrifiadau neilltuol sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd allu atgyfeirio unigolyn y cyfeirir ato yn yr is-adran honno am asesiad iechyd meddwl sylfaenol.
6
Caiff y partneriaid wneud newidiadau i gynllun (gan gynnwys cynllun a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 a chynllun y gwnaed newidiadau iddo eisoes) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
7
Os gwneir newidiadau i gynllun o dan is-adran (6), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
I2I83Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
1
Onid yw adran 4(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â'r canlynol–
a
cynllun ar gyfer eu hardal a gytunwyd o dan adran 2; neu
b
cynllun ar gyfer eu hardal a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4.
2
Os gwnaed newidiadau i gynllun o dan adran 2(6) neu 4(2) rhaid i'r gwasanaethau gael eu darparu yn unol â'r cynllun y gwnaed newidiadau iddo.
I3I64Methiannau i gytuno ar gynlluniau
1
Os na fydd y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yn gallu cytuno ar gynllun o dan adran 2–
a
tra nad oes cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol sydd i fod ar gael yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw a bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer yr ardal honno;
b
rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;
c
caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gynllun ac, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei gofnodi'n ysgrifenedig.
2
Os bydd un partner yn dymuno gwneud newidiadau i gynllun, ond nad yw'r llall yn dymuno hynny, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais iddynt gan y naill bartner neu'r llall, wneud newidiadau i'r cynllun i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda eu gwneud.
3
Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i gynllun o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.
I4I75Ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”
1
Dyma yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol–
a
cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon;
b
darparu ar gyfer unigolyn, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol a ddynodir gan yr asesiad yn driniaeth a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo;
c
gwneud atgyfeiriadau fel a ddisgrifir yn adran 10, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, ynghylch gwasanaethau eraill y gallai eu darparu wella iechyd meddwl yr unigolyn a aseswyd neu atal dirywiad ynddo;
d
darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i ddarparwyr iechyd sylfaenol i fodloni gofynion rhesymol y darparwyr am y cyfryw wybodaeth, cyngor a chymorth arall at ddibenion gwella'r gwasanaethau mewn perthynas ag iechyd meddwl y maent yn eu darparu neu'n eu trefnu;
e
darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer cleifion a'u gofalwyr ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddynt i fodloni eu gofynion rhesymol am y cyfryw wybodaeth a chyngor.
2
Yn is-adran (1)(e)–
ystyr “cleifion” (“patients”) yw unigolion y mae ganddynt, neu y gall fod ganddynt, anhwylder meddwl;
ystyr “gofalwyr” (“carers”) yw aelodau o deuluoedd cleifion, a ffrindiau cleifion, sy'n ymwneud â'u gofal ac yn achos claf sy'n blentyn mae'n cynnwys rhiant maeth awdurdod lleol y plentyn (o fewn ystyr adran 22C(12) o Ddeddf Plant 1989);
ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw–
- a
gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
- b
gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
- c
gwasanaethau a ddarperir o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
- d
gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; a
- e
addysg neu hyfforddiant a all fod yn llesol i iechyd meddwl claf.
- a