xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Y broses asesu

25Diben asesu

Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–

(a)y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;

(b)y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac

(c)y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.

26Asesiadau: darpariaeth bellach

(1)Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.

(2)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–

(a)bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a

(b)bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

27Camau yn dilyn asesiad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.

(3)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.

28Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant

(1)Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(2)Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.