19Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaiddLL+C
(1)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–
(a)cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a
(b)gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.
(2)Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
(3)Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.
(4)Caiff y trefniadau ddarparu–
(a)bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;
(b)bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.
(5)Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
(6)Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 19 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(h)