Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

4Methiannau i gytuno ar gynlluniauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os na fydd y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yn gallu cytuno ar gynllun o dan adran 2–

(a)tra nad oes cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol sydd i fod ar gael yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw a bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer yr ardal honno;

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gynllun ac, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei gofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno gwneud newidiadau i gynllun, ond nad yw'r llall yn dymuno hynny, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais iddynt gan y naill bartner neu'r llall, wneud newidiadau i'r cynllun i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda eu gwneud.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i gynllun o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 4 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(c) (ynghyd ag ergl. 5)