41Cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleolLL+C
(1)Caiff y partneriaid iechyd meddwl lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 o'r Mesur hwn–
(a)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;
(b)sefydlu a chynnal cronfa gyfun.
(2)Caiff Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn–
(a)roi staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;
(b)sefydlu a chadw cronfa gyfun.
(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) cronfa gyfun yw cronfa–
(a)sy'n cael ei ffurfio o gyfraniadau gan bersonau a grybwyllir yn is-adrannau (1) a (2); a
(b)y caniateir gwneud taliadau allan ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau o dan Rannau 1 i 3.
(4)Caiff partneriaid iechyd meddwl lleol, os gwelant yn dda, arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 ar y cyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 41 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(t)
I3A. 41 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(i)