Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

45Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbartholLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–

(a)datgymhwyso Rhan 1 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a

(b)yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth–

(a)sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;

(b)sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I2A. 45 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(g) (ynghyd ag ergl. 5)