(1)Dyma yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol–
(a)cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon;
(b)darparu ar gyfer unigolyn, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol a ddynodir gan yr asesiad yn driniaeth a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo;
(c)gwneud atgyfeiriadau fel a ddisgrifir yn adran 10, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, ynghylch gwasanaethau eraill y gallai eu darparu wella iechyd meddwl yr unigolyn a aseswyd neu atal dirywiad ynddo;
(d)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i ddarparwyr iechyd sylfaenol i fodloni gofynion rhesymol y darparwyr am y cyfryw wybodaeth, cyngor a chymorth arall at ddibenion gwella'r gwasanaethau mewn perthynas ag iechyd meddwl y maent yn eu darparu neu'n eu trefnu;
(e)darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer cleifion a'u gofalwyr ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddynt i fodloni eu gofynion rhesymol am y cyfryw wybodaeth a chyngor.
(2)Yn is-adran (1)(e)–
ystyr “cleifion” (“patients”) yw unigolion y mae ganddynt, neu y gall fod ganddynt, anhwylder meddwl;
ystyr “gofalwyr” (“carers”) yw aelodau o deuluoedd cleifion, a ffrindiau cleifion, sy'n ymwneud â'u gofal ac yn achos claf sy'n blentyn mae'n cynnwys rhiant maeth awdurdod lleol y plentyn (o fewn ystyr [F1adran 105(1)] o Ddeddf Plant 1989);
ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw–
gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
gwasanaethau a ddarperir o dan [F2adrannau 37 i 39 a Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; a
addysg neu hyfforddiant a all fod yn llesol i iechyd meddwl claf.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 5(2) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhl. 281(a)
F2Geiriau yn a. 5(2) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhl. 281(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 5 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(d) (ynghyd ag ergl. 5)