RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL
Asesiadau iechyd meddwl sylfaenol
I1I28Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd
1
Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o'r disgrifiadau canlynol–
a
unigolyn sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
b
unigolyn sy'n ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf honno;
c
unigolyn sy'n glaf cymunedol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17A o'r Ddeddf honno;
d
unigolyn sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
2
Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9–
a
os bydd y cynllun perthnasol yn darparu o dan adran 2(4)(b) fod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl gategorïau neu â chategorïau penodedig o unigolion y cyfeirir atynt yn is-adran (1);
b
os bydd yr unigolyn yn dod o fewn y disgrifiad yn y cynllun o'r unigolion hynny y mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â hwy; a
c
os gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon.
3
Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.
4
Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.
5
Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud gan aelod o staff sy'n dod o fewn categori a bennir yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(5).