xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG

23Y Panel Cynghori

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr i'r Comisiynydd.

(2)Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).

(3)I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.

(4)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.

24Ymgynghori

(1)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.

(2)Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).

(3)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.