Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonauLL+C

66Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais Gweinidogion Cymru).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 66 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 66 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)