RHAN 5LL+CGORFODI SAFONAU

PENNOD 1LL+CYMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Gorfodi gan lys sirolLL+C

88Methiant i gydymffurfio â gofyniad i gymryd camauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

89Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithreduLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag adran 80.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.

90Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.