xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CGORFODI SAFONAU

PENNOD 1LL+CYMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Gorfodi gan lys sirolLL+C

88Methiant i gydymffurfio â gofyniad i gymryd camauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 88 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 88 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)

89Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithreduLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag adran 80.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 89 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 89 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)

90Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 90 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 90 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)