Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Ymgynghori

85Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan adran 71.

(2)Cyn dyfarnu'n derfynol ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant hysbysiad o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(3)Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—

(a)hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;

(b)os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac

(c)copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(4)Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2), (3) a (4), a

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (4).

(6)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant cyn cymryd unrhyw gam y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef.

(7)Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (5); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.

86Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol yn dilyn apêl

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os cyfarwyddir y Comisiynydd, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu'n dilyn unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu o dan adran 73 bod D wedi methu â chydymffurfio â safon (y “dyfarniad newydd”).

(2)Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, ar sail y dyfarniad newydd, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—

(a)hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;

(b)os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac

(c)copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(3)Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3), a

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adran (3).

(5)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant o dan is-adran (4).

(6)Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (4); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.