RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol
87Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D yn nodi camau gorfodi y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu eu cymryd mewn perthynas â dyfarniad o dan adran 73.
2
Rhaid i D—
a
paratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, neu
b
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio,
os yw'r hysbysiad penderfynu'n ei gwneud yn ofynnol i D wneud hynny, yn unol ag adran 79 neu 82.
3
Rhaid i D dalu cosb sifil a nodir yn yr hysbysiad penderfynu yn unol ag adran 84.
4
Ond dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys.
5
Dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y caiff y Comisiynydd roi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
6
Os gwneir apêl berthnasol, nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys—
a
oni fydd, a hyd oni fydd, yr apêl honno, ac unrhyw apêl bellach, wedi dod i ben yn derfynol, a
b
o ran apêl bellach—
i
oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un, neu
ii
oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.
7
Yn yr adran hon, ystyr “apêl berthnasol” yw apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95 mewn cysylltiad â'r materion sydd wedi eu nodi yn yr hysbysiad penderfynu.