RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 2CYTUNDEBAU SETLO
I3I191Cytundebau setlo
1
Mae cyfeiriad at gytundeb setlo rhwng y Comisiynydd a pherson (D) ynghylch methiant D i gydymffurfio â safon (y “methiant perthnasol”) yn gyfeiriad at gytundeb sy'n cynnwys—
a
ymgymeriad gan D i wneud un neu ragor o'r pethau canlynol—
i
peidio â methu â chydymffurfio ag un neu ragor o safonau;
ii
gweithredu mewn ffordd benodol (a gaiff gynnwys paratoi cynllun o gamau sydd i'w cymryd, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny);
iii
peidio â gweithredu mewn ffordd benodol; a
b
ymgymeriad gan y Comisiynydd i beidio â chymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â'r methiant perthnasol.
2
O ran cytundeb setlo —
a
caiff gynnwys darpariaeth gysylltiedig neu atodol (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer terfynu'r cytundeb mewn amgylchiadau penodedig, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny), a
b
caniateir ei amrywio neu ei derfynu drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a D.
3
Ni fernir bod D wedi cyfaddef y methiant perthnasol dim ond oherwydd ei fod wedi ymrwymo mewn cytundeb setlo.
4
Mae is-adran (1) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
I4I292Methiant i gydymffurfio â chytundeb setlo
1
Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â chytundeb setlo.
2
Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod yr ymrwymir yn y cytundeb setlo.