RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Y Tribiwnlys

I8120Tribiwnlys y Gymraeg

I151

Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).

I172

Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—

a

Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);

b

aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac

c

aelodau lleyg.

I173

Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.

I9I244

Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.

I23I20121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y Tribiwnlys

1

Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.

2

Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.

3

Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—

a

o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a

b

o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.

4

Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.

5

Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.

6

Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

7

Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—

a

y Llywydd, neu

b

aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

I11I1122Gwrandawiadau cyhoeddus

1

Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

Ymarferiad a threfniadaeth etc

I7I14123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

1

Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

2

Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

3

Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

a

darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

b

darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

c

darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

i

mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

ii

mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

4

Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

a

arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

b

cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

c

dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

d

dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

e

achosion gwacsaw neu flinderus;

f

caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

g

asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

h

cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

i

pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

j

y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

5

Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

b

i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

6

Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

7

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

8

O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

a

deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

b

maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

9

Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

F1124Cyfarwyddiadau ymarfer

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I13I22125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth

1

Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

2

Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

3

Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

4

Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

a

i bersonau penodol, neu

b

yn fwy cyffredinol.

I12I6126Pwerau atodol

1

Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

2

Dyma'r materion—

a

presenoldeb tystion a'u holi,

b

cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

c

pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

3

Nid yw is-adran (1)—

a

yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

b

wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

4

Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

5

Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Staff ac adnoddau eraill

I5I3127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys

1

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

a

staff,

b

adeiladau, ac

c

adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

2

Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

3

Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

a

drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

b

drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

4

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

5

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

I10I4128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig

1

Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

2

Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

3

Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

4

Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.

Materion gweinyddol

I21I29129Y sêl

1

Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

2

Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

3

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

I27I2130Y flwyddyn ariannol

1

Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

a

y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

b

yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

2

Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

3

Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.

I26I19131Swydd y Llywydd yn wag

1

Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.

2

Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.

3

Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.

4

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.

Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiad

I28I16132Adroddiad blynyddol y Llywydd

1

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—

a

llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a

b

gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.

I25I18133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r Tribiwnlys

1

Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.

2

Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.