Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraithLL+C
4(1)Dim ond os yw person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith—
(a)yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd,
(b)unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith os yw'r person—
(a)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu
(b)wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.
(3)Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)